Cafodd ein gwyliau Amdani, Fachynlleth! eu creu i ysbrydoli, addysgu a diddanu cynulleidfaoedd am y testun o deithio. Mae’n bwnc mor eang i’w drafod ac mae’n gyffrous clywed am straeon, profiadau ac ysbrydoliaeth ysgrifennu gan bob un o’n siaradwyr. Cafodd yr ŵyl ei greu gan berchnogion y Wynnstay Hotel, Charles Dark a Sheila Simpson. Mae’r dref farchnad Machynlleth wedi cynnal rhai o hoff ddigwyddiadau Cymru, yn cynnwys yr ŵyl gerddoriaeth glasurol Gŵyl Machynlleth yn y Tabernacle, yr ŵyl Gwerin a Gŵyl Gomedi Machynlleth dros y blynyddoedd. Yn dilyn llwyddiant y gwyliau, roedd y tîm yn gweld gwagle ar gyfer gŵyl yn canolbwyntio ar deithio a chafodd yr un cyntaf ei gynnal yn 2021. Y gobaith yw bydd yr ŵyl yn cael ei gynnal yn fis Ebrill bob blwyddyn.