Cyhoeddi Tudalen: Gofod digidol newydd ar gyfer ysgrifennu creadigol ar Am

Mae Am yn falch o lansio Tudalen; gofod digidol newydd ar ein gwefan i gyhoeddi llenyddiaeth wreiddiol o Gymru. Mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Tudalen, drwy alwad agored, yn rhannu 3 darn buddugol o lên-meicro ar Ddydd Gŵyl Dewi. Cefnogir Tudalen hefyd gan Gyngor y Celfyddydau Cymru. Rydym yn gofyn am ddarnau o […]
Cyhoeddi taith Lleuwen – y bedwaredd yng nghylchdaith PYST x Mentrau Iaith

Mae’n bleser cyhoeddi taith newydd gan Lleuwen. Mae’r daith yn rhan o brosiect ar y cyd gan PYST, Mentrau Iaith Cymru a chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru: prosiect sydd eisoes wedi gweld teithiau llwyddiannus gan HMS Morris, The Gentle Good a Gwilym Bowen Rhys Trio. Bwriad y bartneriaeth yw ail-gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg fyw i […]
Edrych yn Ôl: Blwyddyn o Dwf a Chyfleoedd

Wrth i 2025 ddod i ben, dwi’n falch o fyfyrio ar yr hyn y mae PYST ac Am wedi’i gyflawni, ac yn optimistaidd iawn am yr hyn sydd o’n blaenau. Ers ei sefydlu, mae PYST wedi parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi labeli Cymreig annibynnol a cherddoriaeth lawr gwlad, gan ddosbarthu a hyrwyddo recordiadau […]
AmCam 2: Galwad agored am 4 ffilm ddogfen am greadigrwydd cymunedol yng Nghymru!

Yn dilyn llwyddiant AmCam, gŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed Am, rydym yn hynod falch o gyhoeddi ail rownd o gyllid tuag at greu pedair rhaglen ddogfen fer arall! Lansiodd Am, cartref digidol diwylliant Cymru, AmCam yn ddiweddar i ddathlu ein pumed pen-blwydd. Dewiswyd pedair ffilm sy’n dogfennu creadigrwydd mewn cymunedau ledled Cymru o alwad hynod […]
Ffenestr ceisiadau ar gyfer trydedd Gronfa Fideos PYST x S4C ar agor nawr!

Sefydlwyd y Gronfa dair blynedd yn ôl er mwyn cynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid neu gyfarwyddwyr newydd oedd heb greu fideo gerddoriaeth Gymraeg o’r blaen. Mae hyn wedi sicrhau twf yn niferoedd fideos Cymraeg sydd yn cael eu creu yn ogystal â gweld artistiaid a chyfarwyddwyr o bob cefndir yn ymwneud â diwylliant Gymraeg am […]