Pedair ffilm fer yn dogfennu diwylliant cymunedol yn ffrydio ar Am nawr!
Mae Am yn falch iawn o ddarlledu rhifyn diweddaraf AmCam: gŵyl ffilmiau digidol yn dogfennu diwylliant cymunedol Cymru.
Mae’r rhifyn yma o AmCam yn cynnwys pedair ffilm fer iaith Gymraeg am ddiwylliant cymunedol gan y gwneuthurwyr ffilm Hannah Mefin, Gwenno Llwyd Till, Lily Tiger T Wells, a Lauren Heckler. Mae’r ffilmiau yn ymdrin â phynciau amrywiol a chyffrous, gan gynnwys pwysigrwydd y papur bro Llais Ogwan i gymuned Dyffryn Ogwen, ymarfer creadigol grŵp o artistiaid yng nghefn gwlad Gogledd Cymru, prosiect brodwaith gan wirfoddolwyr yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Sir Gaerfyrddin, a gwaith hanfodol Gwylwyr y Glannau yn Llansteffan.
Meddai Lea Glyn o Am:
“Mae’n hynod ddifyr gweld dehongliadau mor amrywiol o greadigrwydd cymunedol, a hynny drwy’r iaith Gymraeg. Mae dogfennu a phortreadu cymuned yn hanfodol bwysig, ac mae Am yn freintiedig iawn o gael rhannu’r ffilmiau anhygoel yma. Diolch i Lily, Gwenno, Lauren a Hannah am eu gwaith arbennig”.
Cafodd ffilmiau eu comisiynu yn dilyn galwad agored. Dyma y drydedd rownd o ffilmiau AmCam ac mae modd gweld y ffilmiau blaenorol ar Am hefyd. Sefydlwyd AmCam i ariannu cyfleoedd ar gyfer gwneuthurwyr ffilm ifanc ledled Cymru i bortreadu eu cymunedau drwy gyfrwng ffilmiau byrion. Cefnogir AmCam gan Gyngor y Celfyddydau Cymru.