Roedd yn hynod braf cael cyhoeddi y bedwaredd rownd o Gronfa Fideos PYST x S4C yn ddiweddar. Dros y dair rownd flaenorol mae’r Gronfa wedi cyfrannu at greu 50 o fideos cerddoriaeth gan artistiaid newydd neu artistiaid sydd erioed wedi canu yn y Gymraeg cynt a hoffem ddiolch i S4C am eu cefnogaeth barhaus sydd wedi galluogi y Gronfa hon i barhau a thyfu.
Mae’r galw am gefnogaeth gan y Gronfa wedi bod yn gryf ac mae hynny wedi amlygu sawl peth.
Yn y lle cyntaf, mae’r Gronfa wedi llenwi bwlch a chynnig cefnogaeth ariannol i artistiaid newydd allu creu eu fideo cyntaf i hyrwyddo eu recordiau. Yn amlwg mewn oes ffrydio, does dim arian yn aml i greu asedau hyrwyddo o’r fath ac mae fideos o’r fath yn gallu bod yn arf gwerthfawr i unrhyw artist.
Mae’r ffaith bod cefnogaeth ar gael i artistiaid newydd hwyrach nad sydd wedi cael y cyfle i greu fideo hyd yma, hefyd yn hollbwysig. Mae sawl bwlch yn y gefnogaeth y mae modd ei gynnig i artistiaid newydd (a buddsoddiad yn yr eco-system sydd ei angen ar gyfer datblygiad artistiaid) ac mae llwyddiant y Gronfa yn amlygu yr angen sydd am y cyfleon yma.
Gyda niferoedd siaradwyr Cymraeg yn parhau i leihau, mae’r Gronfa hefyd wedi dangos bod modd i artistiaid o bob cefndir a gallu ieithyddol ymgysylltu gyda’r Gymraeg a bod y cyfle i wneud hynny ar eu termau eu hunain yn allweddol. Mae sawl enghraifft yn hanesyddol yn dangos mae ymgysylltu â cherddoriaeth Gymraeg yw’r bont i ymgysylltiad ehangach gyda’r iaith a’i diwylliant.
Yn olaf, mae llwyddiant y Gronfa hefyd yn amlygu pwysigrwydd datblygu seilwaith sydd yn cydweithio er budd cerddoriaeth yng Nghymru. Mae S4C yn ariannu’r Gronfa, mae modd gweld y fideos i gyd ar Am, mae’r fideos yn hyrwyddo cynnyrch labeli annibynnol Cymru, mae PYST (sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru) yn cydlynu ac yn dosbarthu nifer o’r recordiau ac mae felly yn enghraifft o rannu adnoddau a dysg er budd datblygiad artistiaid newydd Cymru.
Mae cyfoeth o adnoddau a phrofiadau yn y byd cerddorol yng Nghymru. Yr her nesaf fydd datblygu strategaeth cerddoriaeth i Gymru fydd yn cydnabod bylchau ac yn awgrymu ffyrdd o fuddsoddi a chydweithio i sicrhau bod gan gerddorion y dyfodol eco-system hyfyw yng Nghymru i gefnogi eu crefft.
Yn y cyfamser, mae rownd newydd Cronfa Fideos PYST x S4C ar agor nawr a mae modd i chi ymgeisio yma.