Cartref digidol diwylliant Cymru.

DREAM

Tocynnau a Dyddiadau: YMA

Mae DREAM yn ballet llawn newydd, bywiog, ffres ac arloesol sy’n seiliedig ar waith Shakespeare, A Midsummer Night’s Dream. Gan weithio gyda’r offerynnwr a’r cyfansoddwr sydd wedi ennill sawl gwobr, Frank Moon, mae Ballet Cymru wedi creu byd hudolus o dylwyth teg, cariadon a hudoliaeth swynol sy’n gwyro rhywedd.

Mae DREAM  yn ailddehongliad disglair ar ffurf ballet ar gyfer yr 21ain Ganrif, ac yn cynnwys dawnswyr arloesol Ballet Cymru, tafluniad fideo syfrdanol, a choreograffi arloesol gan y Cyfarwyddwyr Artistig Darius James OBE ac Amy Doughty.

Siân Trenberth Photography


Frank Moon yw’r un or prif gyfansoddwyr ar gyfer dawns yn y DU, ac mae ei gyfansoddiadau’n cynnwys; The Metamorphsis (Y Tŷ Opera Brenhinol, enillydd Gwobr Olivier, Gwobr South Bank Sky Arts, a Gwobr Dawns Genedlaethol y Critics’ Circle), The Little Match Girl (Jerwood DanceEast/Sadler’s Wells).

Mae Ballet Cymru, sef un o gwmnïau arobryn Gwobrau’r Critics’ Circle, yn gwmni ballet teithiol rhyngwladol a gyfer Cymru, sy’n ymrwymedig i gynhwysiant ac arloesedd mewn dawns a ballet clasurol, a’r safon uchaf a gydweithio. Mae’r cwmni’n cynhyrchu perfformiadau dawns proffesiynol gwreiddiol, a’r rheiny’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei raglen Mynediad ac Allgymorth helaeth yn ymrwymedig i chwalu’r rhwystrau sy’n atal mynediad at y celfyddydau.

“Roedd hwn yn berfformiad ballet syfrdanol: dirgel, dyfeisgar a gafaelg ar” adolygiad o Giselle 2021, gan Young Critics Review

RHANNWCH