Mae Celfyddydau SPAN yn cyflwyno “Nadolig Plentyn yng Nghymru” ar blatfform arloesol “Theatr Soffa”!
Mae cymunedau ledled Sir Benfro wedi bod yn gweithio’n galed tuag at berfformiadau o stori Nadolig annwyl Dylan Thomas allwch wylio o gysur eich cartref eich hun ym mis Rhagfyr 2021. Cynhaliwyd ymarferion dros alwadau fideo fel rhan o brosiect arloesol “Theatr Soffa”, gyda phobl cymryd rhan o bob cornel Sir Benfro a Ceredigion a’i gwneud hi’n bosibl i bobl â chyflwr iechyd sylfaenol gymryd rhan mewn prosiect cymunedol. Cydweithiwyd SPAN, Menter Sir Benfro a Cered i ddod â grwpiau Cymraeg a Saesneg at ei gilydd ac mae’r castiau wedi bod yn greadigol wrth grefftio propiau a gwisgoedd i ddod â’r stori galonnog yn fyw.
Mae hanes barddonol Dylan Thomas am Nadoligau ei blentyndod mewn tref fach yng Nghymru yn stori gyfarwydd iawn, yn cynnwys bleiddiaid, eirth, hipos a chath Mrs Prothero. Bydd y fersiwn theatr yn cael ei chyflwyno yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio’r cyfieithiad hardd Bryan Martin Davies. Mae’n wledd hiraethus berffaith y gaeaf i’r rhai sydd ag atgofion melys yn barod a chynulleidfaoedd ifanc sy’n adeiladu eu hatgofion eu hunain am y blynyddoedd i ddod. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys cerddoriaeth syfrdanol “Deuair” sy’n cynnwys doniau cerddorol Elsa Davies a Ceri Owen-Jones, a gwaith celf wreiddiol hyfryd Jake Whittaker, sydd hefyd yn gweithio fel Technolegydd Creadigol ar y cynhyrchiad.
Mae “Theatr Soffa” yn rhan o brosiect Celfyddydau ac Iechyd SPAN ehangach sydd wedi derbyn cyllid HARP gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Y Lab (Prifysgol Caerdydd a Nesta). Mae’r cyllid hwn yn cynnwys nifer o weithgareddau celfyddydau cymunedol gyda ffocws ar iechyd, lles a chydweithrediad rhwng Sefydliadau’r Celfyddydau a phartneriaid Iechyd. Datblygwyd y prosiect yn dilyn prosiectau llwyddiannus blaenorol “Theatr Soffa” gan SPAN a ddechreuodd gyda chynyrchiadau ar-lein arloesol o destunau “Dan y Wenallt” / “Under Milk Wood” gan Dylan Thomas ar ddechrau’r pandemig.
Dywedodd Anna Sherratt, sy’n cyfarwyddo’r darn, “Mae’n bleser mawr cael gweithio gyda grwpiau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Ceredigion eto tuag at ddau berfformiad arbennig iawn. Mae’r castiau wir yn cefnogi ei gilydd ac mae’n hyfryd gweld nhw’n gwneud propiau i’w gilydd ac yn dod o hyd i lawenydd a phwrpas wrth greu rhywbeth gyda’i gilydd. Rydw i wedi caru stori ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ ers bod yn blentyn fy hun a chlywed fersiwn wedi’i recordio ar dâp casét am y tro cyntaf, felly mae’n wych gweld pobl o gefndiroedd gwahanol iawn yn dod ag ef yn fyw. ”
Bydd y perfformiadau yn cael eu dangos yn fyw ar ddydd Gwener 5ed (iaith Saesneg) a dydd Sadwrn 11eg (Cymraeg) o fis Rhagfyr am 7.30yh, a gallwch eu gwylio to am bythefnos yn dilyn y perfformiad gwreiddiol. I archebu tocyn am ddim, ewch i:
Tocynnau (Perfformiad Cymraeg)
Tickets (Perfformiad Saesneg)