Cartref digidol diwylliant Cymru.

Giselle

Un o gwmnïau arobryn Gwobrau’r Critics Circle, Ballet Cymru, yn cyflwyno ballet newydd eithriadol yn seiliedig ar stori dragwyddol Giselle.

Mae Ballet Cymru wedi rhoi ei stamp unigryw ei hun ar y stori hon am gariad a cholled, gan ddod â pherthasedd, dwyster a phlwc i’r ballet hynod ramantus hwn.

Yn cynnwys sgôr newydd gan y cyfansoddwr a’r delynores glodwiw, Catrin Finch y mae ei cherddoriaeth gyfareddol yn cydblethu â symudiad syfrdanol gan Gyfarwyddwr Artistig Ballet Cymru, Darius James OBE a’r Cyfarwyddwr Artistig Cynorthwyol, Amy Doughty.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i fwynhau dawnsio sydd ymhlith y gorau yng Nghymru, ac wedi’i wneud yng Nghymru.

Wedi’i greu yng Nghymru mewn partneriaeth â Theatr Glan yr Afon, Casnewydd a Catrin Finch.

Tocynnau YMA


Ffotograffiaeth gan Sian Trenberth

RHANNWCH