Mae PERERINDOD yn brosiect newydd gan Invertigo a Chwmni Tebot sydd am gefnogi artistiaid i greu gwaith newydd, beiddgar, a ffurfio cysylltiadau gydag artistiaid drwy Gymru a Gwlad y Basg. Uchafbwynt y prosiect fydd Gŵyl Rithiol Pererindod lle byddwn yn arddangos a dathlu’r gwaith newydd yn ystod penwythnos yr 17eg – 19eg o Fedi.
Yr artistiaid fydd yn cymryd rhan yn PERERINDOD fydd:
Amaia Gabantxo & Oihana Iguaran
Asisko Urmeneta
Elgan Rhys
Emily Meilleur & Femke Van Gent
Iestyn Tyne
Jonny Reed
Meinir Roberts
Tafsila Khan