Cartref digidol diwylliant Cymru.

Zine 2 Galeri

Croeso i ail rifyn cylchgrawn digidol Galeri.
Mae cryn dipyn o waith wedi bod yn mynd ymlaen ers y rhifyn cyntaf – mae gwaith cynnal a chadw anghenrheidiol, recriwtio a hyfforddi staff, cynllunio a pharatoi, cynnig Gofod Creu, croesawu tenantiaid nol i’r adeilad, ail agor y Café Bar – a bellach rydym wedi gallu ail-ddechrau rhaglen sinema rhan amser. Mae’r gwaith adeiladu lawr ar safle Cei Llechi hefyd wedi dirwyn i ben gyda tenantiaid wedi agor i fusnes – ewch lawr am sbec.
I’n helpu, byddai’n ddefnyddiol cael eich adborth/sylwadau ar
Y math o gynnwys hoffech weld
Fformat y cylchgrawn
Pa mor rheolaidd hoffech gael cylchgrawn digidol (misol / pob 2 fis / chwarterol ayyb)
Gyfrannwyr i ychwanegu cynnwys i’r cylchgrawn
Gellir rhannu eich barn a sylwadau drwy anfon neges breifat ar Facebook, Twitter, Instagram neu ebostio zine@galericaernarfon.com
Yn y cyfamser – gobeithio y gwnewch fwynhau yr ail rifyn or cylchgrawn!

RHANNWCH