Dyma byped enfawr mwyaf diweddar Theatr Byd Bychan-draig Cymraeg hardd a tanbaid sy’n 10m o hyd. Cafodd y ddraig ei greu ar gyfer Pared Dewi Dinas a Sir Abertawe ar y 3ydd of Fawrth 2018. Roedd e’n rhan o orymdaith drawiadol trwy ganol y dre, yn gorffen yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
The Healing of Brân
Mae ‘Iacháu Brân’ yn chwedl oesol am arweinyddiaeth, brad a gobaith. Mae’r cawr hwn yn 7.62m neu 25tr o daldra, ac mae’r cynhyrchiad hwn gan Theatr Byd Bychan yn emosiynol ac epig fel ei gilydd – sioe i roi gwefr mewn unrhyw achlysur.
Dyma stori aberth bersonol Bendigeidfran, stori am gariad Brenin at ei deulu, ei bobl a’i wlad, a chwedl sy’n diweddu mewn cymod wedi rhyfel, brad a gwae. Am fwy na mil o flynyddoedd mae’r doethineb sydd ymhlyg yn y chwedl hon o’r Mabinogion wedi arwain a dylanwadu ar lu o ddarllenwyr. Mae’n amser dod â’r stori i’r 21ain ganrif a rhannu’r doethineb hwnnw gyda chynulleidfa ehangach o lawer, gan ddechrau gyda’n cyfeillion yn y byd Celtaidd. Mae Theatr Byd Bychan wedi defnyddio’r chwedl ganol-oesol i greu dehongliadau newydd gan ddefnyddio’r dyfyniad enwog ‘a fo ben bid bont’ – sef ‘nid oes arweinydd nad yw’n gallu pontio’.