Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llafur a cham cyntaf galar

Llenyddiaeth

Rhyfeddol, ond nid annisgwyl, yw sydynrwydd y modd y collodd y cyfryngau Llundeinig bob diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ar ôl chwyldroad 7 Mai. Efallai fod hynny’n esbonio hefyd pam mai araf fu unrhyw ymateb ystyrlon gan y Blaid Lafur Brydeinig i’r grasfa enbyd a gafwyd yng Nghymru.

Os oedd angen cadarnhad pellach o ba mor amherthnasol yw Cymru yn y byd‑olwg Eingl‑Brydeinig yna fe’i cafwyd yn yr wythnosau ers 7 Mai. Ar unrhyw fesur gwrthrychol, y canlyniad yng Nghymru oedd y stori fwyaf o ddigon a ddeilliodd o ganlyniadau’r gwahanol etholiadau a gynhaliwyd ar draws Prydain y diwrnod hwnnw. Roedd chwalu gafael Llafur ar etholwyr Cymru ar ôl canrif o ddominyddiaeth yn foment o arwyddocâd hanesyddol diymwad. Siawns na allwn gytuno fod y ffaith mai Plaid Cymru oedd yn fuddugol hefyd yn ddigwyddiad o bwys gwirioneddol.

Roedd hyd yn oed canlyniad Reform yn arwyddocaol. Wedi’r cyfan, er na lwyddodd plaid Nigel Farage i ddod yn agos at allu ffurfio llywodraeth, erys yn ffaith mai yng Nghymru y sicrhaodd ei phleidlais gryfaf a hynny er gwaetha’r ffaith fod y wlad hon wedi profi’n dalcen caled i’r Ceidwadwyr ers gwawrddydd gwir ddemocratiaeth.

Petai ffeithiau moel y canlyniad ddim yn ddigon i dynnu dŵr o ddannedd unrhyw newyddiadurwr gwerth ei halen, roedd yna hefyd ddigon o ddrama ddynol yn lefain drwy’r holl ystadegau. Y cyn‑Brif Weinidog yn colli ei sedd; ymdaith yrfaol ddiddorol y Prif Weinidog newydd; deddfwrfa’n llawn o wynebau anghyfarwydd – a llawer mwy. Byddai rhywun efallai’n tybio bod yna hen ddigon o’r human interest bondigrybwyll i lonni calon unrhyw un oedd yn chwilio am ‘ongl’ wahanol.

Eto, prin fod newyddiadurwr gwleidyddol Llundain wedi cuddio eu diffyg diddordeb yn y cyfan. Unwaith yr oedd y canlyniadau Cymreig wedi eu hailadrodd a’u dyletswyddau wedi eu cyflawni, fe drodd eu golygon yn syth at yr hyn sy’n cyfrif go iawn – canlyniadau etholiadau lleol Lloegr a’u goblygiadau i San Steffan a Downing Street. Mewn negeseuon ffôn a thestun a dderbyniwyd gan sylwebwyr fel eich colofnydd, cawsom wybod na fyddai bellach ein hangen ar raglenni ‘rhwydwaith’ y penwythnos ar ôl yr etholiad gan nad oedd bellach ‘ddigon o ofod’ er mwyn ein cynnwys. Wrth wrando a gwylio’n ddiweddarach, daeth hi’n amlwg fod hynny oherwydd fod stori etholiad Cymru wedi diflannu’n gyfan gwbl o’r rhaglenni hynny. Hyd yn oed ar ôl canlyniad mor arwyddocaol, nid oedd Cymru’n cyfrif fel rhan o’r ‘national news’ go iawn – y ‘news where you live’ yw ein priod le ni!

Gadewch i mi bwysleisio nad cwyno fod Cymru fach yn cael cam yw fy mwriad yma. Nid oedd y driniaeth a gafodd gwleidyddiaeth Cymru’n syndod o fath y byd. Fel y gŵyr darllenwyr cyson, bu plwyfoldeb anhraethol y cyfryngau Llundeinig yn hen thema yn y golofn hon. Y newyddion da a phwysicach o lawer oedd bod mwy o ddiddordeb yma yng Nghymru yn ein politi cenedlaethol nag erioed o’r blaen. Dylem ymfalchïo yn y ffaith fod nifer cynyddol o Gymry’n cymryd eu gwleidyddiaeth o ddifri a hynny heb boeni os yw’n cael ei ddilysu yn Llundain neu beidio. A’r eisin ar y gacen oedd bod gwleidyddiaeth Cymru, cyn ac ar ôl etholiad mis Mai, wedi derbyn mwy o sylw y tu hwnt i ffiniau’r wladwriaeth Brydeinig nag erioed.

Na, y rheswm dros grybwyll y ffaith fod newyddiadurwyr Eingl‑Brydeinig wedi rhoi’r lleiafswm posibl o sylw i etholiad mor amlwg arwyddocaol yw ei fod, rwy’n tybio, yn helpu i egluro pam mae’r Blaid Lafur Brydeinig hithau wedi methu ag ymateb mewn modd ystyrlon i’r grasfa a dderbyniodd ei changen Gymreig.

Hyd y gwelaf, Wes Streeting yw’r unig ffigur arweinyddol Prydeinig o bwys sydd wedi dweud unrhyw beth o sylwedd am y canlyniad yng Nghymru. Mewn cyfweliad â’r New Statesman a rannwyd ar bodlediad y cylchgrawn, roedd yn nodweddiadol huawdl wrth danlinellu pa mor ddifrifol o wael oedd perfformiad Llafur yn yr hyn a ystyriwyd fel ei chadarnle mwyaf teyrngar.

Ond roedd yr un mor amlwg o’i sylwadau nad oedd gan Streeting ddiddordeb go iawn yn yr hyn oedd wedi digwydd i Lafur Cymru. Yn hytrach, ac yntau wedi ymddiswyddo o gabinet Syr Keir Starmer, roedd yn defnyddio ei chanlyniad gwaradwyddus o wael fel pastwn i golbio ei gyn‑fos. Yn wir, i’r graddau ei fod wedi cynnig unrhyw fath o ddadansoddiad o ffawd Llafur, y cwbl a gafwyd oedd ystrydebau yn dangos nad oedd yn deall dim. Yn absenoldeb arweinyddiaeth effeithlon roedd y ‘cenedlaetholwyr’ – gyda Phlaid Cymru a Reform yn llathen o’r un brethyn – wedi llwyddo i hudo etholwyr Cymru oddi ar lwybr cul gwleidyddiaeth flaengar. Dwed ti, Wes bach.

Rwy’n tybio ei fod yn dipyn o ryddhad i’r ddeuawd lai‑na‑deinamig sy’n dal yr awenau yng Nghymru, Jo Stevens a Ken Skates, na fu mwy o ddiddordeb yn rhengoedd uwch eu plaid yn y rhesymau am gyflafan mis Mai. Yn sicr, roedd yr adain o’r blaid y mae’r ddau’n ei chynrychioli – y Brit Nats, chwedl cyfaill o Lafurwr – yn gwbl anfodlon cymryd sylw o’r data sylweddol oedd ar gael ymhell cyn i’r un bleidlais gael ei bwrw a oedd yn ei gwneud yn gwbl amlwg fod Llafur ar fin syrthio dros ymyl y dibyn.

Ers i’r darogan gael ei wireddu, mae sylwadau cyhoeddus y ddau wedi bod yn gwbl ddisylwedd. Mae hefyd yn drawiadol pa dawedog y bu Stevens, yn arbennig. Yn wir, mae amharodrwydd yr Ysgrifennydd Gwladol a’i chyd‑Aelodau Seneddol Llafur o Gymru i ymddangos mewn cyfweliadau bellach yn dipyn o jôc ymysg newyddiadurwyr. Nid yw hynny wedi rhwystro briffio anhysbys, wrth gwrs, gyda ffynonellau sy’n ‘agos at Swyddfa Cymru’ (fel maen nhw’n ei ddweud yn y busnes) yn rhoi’r bai ar Mark Drakeford am y cyfan!

Y sôn ydi bod Llafur wrthi ar hyn o bryd yn comisiynu darn o waith ymchwil allanol a fydd yn dadansoddi’r canlyniad yng Nghymru. Bydd yn ddiddorol gweld pwy sy’n ennill y comisiwn a beth fydd lefel eu harbenigedd ar wleidyddiaeth Cymru! Mae’n bosibl hefyd y bydd coroni Andy Burnham fel y Prif Weinidog yn golygu bod y pwysau allanol ar y Blaid Lafur Gymreig yn cynyddu. Mae Burnham a Drakeford yn llawiau. Tybed a fydd cyn‑Brif Weinidog Cymru yn defnyddio ei gysylltiad i herio’r Brit Nats a cheisio rhoi rhywfaint o wynt yn ôl yn hwyliau’r prosiect Llafur Cymreig?

Ond ar hyn o bryd, beth bynnag, does dim golwg fod Llafur hyd yn oed yn dechrau mynd i’r afael â’r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru ar 7 Mai. Fe fydd pawb, rwy’n siŵr, yn gyfarwydd â’r syniad fod yna bum cam yn y broses o alaru: Gwadu, Dicter, Bargeinio, Digalonni a Derbyn. Megis dechrau ar y cam cyntaf y mae’r Blaid Lafur.

Y broblem sydd ganddynt, fodd bynnag, yw nad yw gwleidyddiaeth yn disgwyl. Mewn llai na deg mis bydd y blaid yn wynebu etholiadau lleol yng Nghymru. Yn yr etholiadau diwethaf yn 2022 fe enillodd Llafur dros 30% o’r bleidlais a 526 o’r 1,271 o seddau. Ar ben hynny, bydd yn rhaid cynnal yr etholiad cyffredinol Prydeinig nesaf cyn Gorffennaf 2029. Go brin y bydd yn rhaid atgoffa darllenwyr Barn for Llafur wedi ennill 27 o’r 32 o etholaethau Cymreig yn etholiad 2024 a hynny ar sail 37% o’r bleidlais. Er mor drychinebus oedd canlyniad mis Mai, mae gan Lafur lawer iawn mwy o dir i’w golli.

Richard Wyn Jones

RHANNWCH