Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cerdded a Gwrando gyda Chen

Digwyddiad sy’n cyfuno celf a gwyddoniaeth; dewch i ddarganfod mwy am fyd cudd cennau ym Mhowys.

GWRANDO AR GEN

‘To study lichens is to get a taste of earth and health, to go gnawing the rocks and rails.’ — David Henry Thoreau. 1859

Yn ystod y digwyddiadau hyn byddwn yn cyflwyno arferion corfforol a lles yn ystod taith gerdded i ymweld â chytrefi cen ochr yn ochr â’r ecolegwyr Josie Bridges ac Ellie Baggett.

Gan gyfuno dehongli cen â ffyrdd o gyffwrdd, symud ac ymgyfarwyddo, byddwn yn ceisio cofio beth yw bod yn symbiotig o archwilio’r organebau dirgel a gwydn hyn.

Ar ôl y daith, byddwn yn cynnig gofod gwrando myfyriol, lle gallwch ymgolli yn ecolegau sonig recordiadau maes o gennau, i gyfeiliant telyn Geltaidd yn cael ei chwarae’n fyw gan Ceri Owen-Jones.

Mae Troi’n Gen yn brosiect ymchwil parhaus, a gefnogwyd yn wreiddiol gan Oriel Davies, Cyngor Celfyddydau Cymru a Natur am Byth yn ystod 2025-26.

 

Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan
Dydd Iau, Gorffennaf 9fed • 1:30 PM – 5 PM

Tocynnau

RHANNWCH