Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sut i ennill lecsiwn a dylanwadu ar genedl

Llenyddiaeth

Mae’n ymddangos bod y cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan bwysig yn ymgyrch etholiadol lwyddiannus Plaid Cymru. Yng nghanol hynny roedd y cynhyrchydd cynnwys TANE ROGERS-EIRUG, ac aeth Barn i’w holi am y grefft o gyflwyno gwleidyddion a’u negeseuon ar-lein.

 

Oes ’na high tebyg i Blaid Cymru yn ennill etholiad Senedd?

Dyna oedd gwerthwr cyffuriau lleol yn Mhontcanna yn ei addo yn yr wythnos cyn yr etholiad. Fe bostiodd yn eofn ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig gwefr genedlaetholgar i unrhyw un fyddai’n pleidleisio dros Blaid Cymru.

A nawr mae’r deliwr cyffuriau yn eistedd wrth fy ochr yn bwyta salad yng nghanol marchnad Caerdydd. Nid deliwr cyffuriau go iawn mohono, er y gellid yn sicr ei alw’n jynci gwleidyddol, ac yntau’n bodio ei ffôn symudol bob dwy funud am y newyddion diweddaraf. Dyma Tane Rogers-Eirug – cynhyrchydd cynnwys sy’n cael ei fix wrth bostio riliau doniol ar TikTok ac Instagram. Ac nid dim ond ar ei gyfri comedi personol y bu Tane yn postio trwy gyfnod yr etholiad ond hefyd ar gyfrifon Plaid Cymru.

Wedi’r fuddugoliaeth hanesyddol, does dim modd osgoi pa mor bwysig oedd y gwefannau cymdeithasol wrth i’r pleidiau ymgyrchu. Yn ôl y gohebydd gwleidyddol Will Hayward, roedd y cyfryngau cymdeithasol yn ‘huge’ – nid yn unig o ran cyrraedd pobl ond hefyd o ran gosod y safon ar gyfer ansawdd y drafodaeth. Tra oedd Eluned Morgan yn gwneud fideo argyfyngus munud olaf gyda chwech o ganiau coctel a Reform yn canolbwyntio ar hybu Nigel Farage, roedd cyfrifon Plaid Cymru fel pe baent yn torri drwodd.

Dwi’n meddwl mai beth wnaeth Plaid Cymru’n dda, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol,’ medd Will Hayward, ‘oedd taro cydbwysedd rhwng allbwn proffesiynol a chynnwys hygyrch.’

A dyna oedd yn bwysig i Tane. Pan ddaeth e’n rhan o dîm cyfryngau cymdeithasol y Blaid yn 2025, roedd y brîff yn syml – dylanwadu ar bobl a’u cael nhw i bleidleisio. A rhywsut, fe lwyddodd i greu seren TikTok o wleidydd moel mewn siwt a thei.

Nid yw perfformio i’r camera’n beth newydd i Llŷr Huws Gruffydd wrth gwrs, wedi iddo ddod yn adnabyddus yn wreiddiol fel Llywarch yng nghyfres ddrama S4C Jabas ar ddiwedd y 1980au. Ond ers i Tane ddechrau cydweithio ag ef, mae ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol wedi cael dros 2 filiwn o edrychiadau a 1.3 miliwn ar TikTok.

Ti’n gorfod cael naratif sy’n cydio – stori dda!’ medd Tane. ‘Os ti ddim yn gwybod beth ti moyn dweud, ti ffili dweud stori. A’r stori oedd – dyw bywyd ddim yn gorfod bod fel hyn. O’dd pawb eisie newid.’ Yn wahanol i Reform, neges Plaid Cymru oedd bod angen bod yn obeithiol i’r dyfodol. Roedd yr ymgyrch mor drawiadol nes i’r Western Mail roi dwy dudalen lawn i’r stori.

Er y gallai ambell wleidydd fod yn nerfus wrth geisio cymysgu gwleidyddiaeth a chomedi, mae Tane yn dweud bod Llŷr wedi ymddiried ynddo o’r dechrau. ‘’Nes i ddweud wrtho fe, ti’n mynd i esgus cael anrheg Secret Santa gan Llafur.’ Ond ergyd y fideo hwnnw yw nad yw’r anrheg yn cyrraedd – a HS2 oedd yr addewid. Mae Llŷr yn gwisgo siwmper Nadolig dynn, ac yn dod drosodd fel cês sy’n mwynhau ychydig o hwyl. Aeth y fideo’n feiral yng Nghymru gan arwain at ragor o riliau tafod‑yn‑y‑boch oedd yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Roedd Tane wedi astudio ymgyrchoedd digidol etholiadau Seland Newydd wrth baratoi ymgyrch TikTok Plaid Cymru. Roedd cyfrif Prif Weinidog presennol Seland Newydd, Christopher Luxon, wedi dal ei sylw. ‘O’dd dim production values. O’dd e jyst ’di pigo lan y ffôn a siarad i’r camera. O’dd e’n ’neud pethe fel esbonio pum peth ni’n mynd i ’neud, mewn ffordd atyniadol. Do’dd e ddim yn teimlo fel rhywun hen yn trio apelio at bobol ifanc. Mae hynny’n allweddol.’

Daeth ysbrydoliaeth hefyd o astudio’r dulliau cyfathrebu cymdeithasol llwyddiannus a ddefnyddiwyd yn ystod etholiad Awstralia. Pan ddaeth Zohran Mamdani yn faer Efrog Newydd roedd yntau hefyd yn gadael i’w bersonoliaeth serennu. ‘Mae e’n jyst yn bod yn fe’i hunan,’ medd Tane. Os yw rhywbeth yn teimlo’n ffug, neu fel hysbyseb, mae Tane yn dweud bod pobl yn colli diddordeb ac yn sgrolio bant. ‘O’dd pobol yn dechre gweld mor llwyddiannus o’dd Llŷr ac yn dechre copïo steil y fideos o’n i’n creu.’

Fel ymgeisydd ifanc Plaid Cymru yn etholaeth Caerdydd Penarth, roedd Kiera Marshall (sy’n aelod o’r Senedd bellach) eisiau cydweithio â Tane gan ei bod hi’n sylweddoli pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol. ‘Ro’n i eisie siarad â phobol ifanc a beth o’dd yn apelio ata’ i o’dd yr agwedd wahanol i coms gwleidyddol arferol. Roedd y fideo steil ffilm Trainspotting wnaethon ni mor unigryw ac yn chwa o awyr iach. Mae’n ’neud i chi sefyll mas.’ Mae hi’n dweud bod sawl un ar garreg y drws wedi dweud eu bod wedi ei gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r diolch i Tane am hynny, meddai.

Ond er bod Tane yn adnabyddus am wisgo balaclafa pinc a gwneud hwyl am ben pawb a phopeth o grachach Pontcanna i selogion Tafwyl a ‘Hidden Gems’ y brifddinas, mae hefyd wedi gweithio ar raglenni dogfen dwys fel Buried ac Operation Seal Bay i’r BBC a Llofruddiaeth y Bwa Croes i S4C.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd cyn symud i fyw yn Zimbabwe gyda’i fam, Traude, yn 7 oed wedi i’w rieni wahanu. Roedd ei dad, y newyddiadurwr Aled Eirug, wedi aros yng Nghaerdydd. Mae’n disgrifio’i blentyndod fel un a dreuliwyd allan yn yr awyr iach dan haul llachar, yn chwarae pêl‑droed a chriced yn droednoeth wedi’r ysgol. Wedi dychwelyd i Gaerdydd, fe ailgydiodd yn ei Gymraeg a hyfforddi fel newyddiadurwr ar ôl blynyddoedd o weithio yn y byd gwleidyddol – yn gyntaf yng Ngenefa gyda’r Cenhedloedd Unedig ac yna yn y Senedd Ewropeaidd ym Mrwsel. Y cyfnod hwnnw yn ei fywyd wnaeth ysbrydoli ei raglen ddiweddaraf i S4C, Mission: Cymru – comedi ddeg munud yn dychmygu’r anhrefn mewn llysgenhadaeth Ewropeaidd yn y dyddiau cyntaf wedi i Gymru gael annibyniaeth. ‘Dyw e ddim yn ’neud hwyl am ben Cymru,’ mynna Tane. ‘Mae’n ’neud hwyl am ben pobol ti wedi cwrdd â nhw mewn swyddfa.’ Mae’n gobeithio bydd y peilot yn cael mwy o sylw yn sgil canlyniad hanesyddol yr etholiad ac y bydd mwy o benodau’n cael eu comisiynu.

Nawr, mae’n gyfnod rhyfedd iddo wedi’r gwaith caled o gynhyrchu hanner cant o fideos mewn tair wythnos ar gyfer ymgyrch Plaid Cymru. Gyda’r gwaith cyfathrebu bellach yn dod o dan adain y llywodraeth, mae Tane yn gobeithio y bydd yr arddull gyfathrebu yn parhau i fod yn un sy’n gwneud i’r gwleidyddion ymddangos yn groesawgar. Mae’n credu y dylai’r neges gadarnhaol barhau, ac y dylen nhw egluro’r gwaith maen nhw’n ei wneud fel nad ydyn nhw’n datgysylltu oddi wrth eu cefnogwyr.

Fi mor falch o’r gwaith ’naethon ni. Mae pobol yn dod lan ata’ i ac yn dweud, “Ni’n meddwl bod hyn wedi cael effaith.” O’dd e’n brîff gwych. O’dd cymaint o vibes!’

Mae’n gorffen ei salad ac yn gwisgo’i glustffonau anferth unwaith eto i fynd i’r gampfa. Wrth adael y farchnad, rwy’n cael y teimlad hyd yn oed os na fydd high gwleidyddol cystal fyth eto, y bydd Tane yn cael syniad gwych arall unrhyw funud i wneud i Gymru chwerthin drosodd a throsodd.

Gwenfair Griffith

RHANNWCH