Un peth sydd wedi ei ddweud wrtha’i fwy nag unwaith yn ddiweddar gan y rhai sy’n fy nghofio i’n ferch fach ydi ’mod i wedi altro’n arw o gofio mor swil o’n i ers talwm. Yr awgrym ydi ’mod i wedi bod yn blentyn tawel iawn, ac wedi datblygu wedyn i fod yn oedolyn… wel, sydd ddim yn brin o ddweud ei dweud.
Dwi ddim yn cofio pa mor swil neu dawel o’n i mewn gwirionedd, ond yn sicr roeddwn i’n byw llawer iawn yn fy mhen ac yn fy llyfrau. A dwi’n cofio poeni’n ofnadwy am bethau – o lesiant fy anifeiliaid anwes i’r bygythiad o ryfel niwclear. Un atgof clir sydd gen i yw hel mes i’w bwyta petai argyfwng felly’n dod, a thrio arfer efo’u blas nhw fel y baswn i wedi paratoi fy hun ar gyfer y gyflafan. Ro’n i’n tua wyth oed ar y pryd.
A dydw i ddim yn siŵr faint o swildod fy mhlentyndod rydw i wedi ei fwrw mewn gwirionedd. Mae’n wir dweud nad ydw i bellach yn arbennig o dawel, ond dydw i ddim chwaith yn gyfforddus iawn efo bywyd cyhoeddus, er mai dyna’r bywyd sydd wedi dod i’m rhan, fwy na heb.
Mae gen i duedd i fod â theimladau dwfn a barn gref, a hynny’n aml sydd wedi fy arwain at lwyfannau amrywiol i’w mynegi nhw. Un o’r llwyfannau rheiny yw cylchgrawn Barn, a’r golofn hon. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael myfyrio yma ers tua chwarter canrif, ond rydw i’n camu o’r neilltu fel colofnydd yn dilyn fy ethol i Senedd Cymru dros Wynedd Maldwyn fis diwethaf.
Mi fydda i’n colli’r cyfle misol yma rydw i wedi’i gael i geisio gwneud synnwyr o fywyd a’i ‘ehangder sy’n gam i gyd’, gan gynnwys ambell i storm bersonol go ingol. Mae ’mhlant i wedi tyfu i fyny efo’r golofn hon, a finnau wedi cael llwyfan i rannu rhai gwirioneddau anghyfforddus am rianta fel mam sengl.
Mae cael rhwydd hynt i drafod heriau a hawliau merched drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn fraint y bydda i bob amser yn ddiolchgar amdani, ac mi fydd yr ymateb rydw i wedi ei dderbyn i ambell erthygl yn aros efo fi’n hir.
Rydw i wedi dysgu llawer iawn – ac wedi dysgu’r ffordd galed pa mor hawdd mae geiriau yn gallu cael eu rhwygo o’u cyd‑destun a’u defnyddio yn eich erbyn am ddegawdau.
Rydw i wedi bod yn ffodus o gefnogaeth olygyddol heb ei hail – cefnogaeth nad o’n i’n ei haeddu’n aml iawn, a finnau mor hwyr yn ffeilio copi. Rydw i’n aderyn y nos, ac yn ffodus i mi mae un o’r golygyddion hefyd yn dipyn o dylluan – ac yn meddu ar amynedd Job.
Mae sgwennu fy marn wedi bod yn rhan o ’mywyd i ers fy nyddiau ym Mhrifysgol Caerdydd, ble ro’n i’n cyfrannu i bapur Gair Rhydd. Big Issue Cymru, y Western Mail a Golwg ddaeth wedyn, ac yna Barn. Mae bod yn aelod o deulu’r cylchgrawn hwn wedi bod yn wir anrhydedd, ac yn destun balchder mawr i mi.
Mi fydd y myfyrio rydw i wedi ei wneud ar y dudalen hon yn dod efo fi i’r Senedd. Mae trin geiriau a syniadau wedi rhoi min ar fy marn a naddu fy ngwerthoedd, a gyda buddugoliaeth ysgubol Plaid Cymru ar 8 Mai, daeth cyfle rŵan i droi geiriau’n weithred.
Diolch am ddarllen, a phob dymuniad da.
Beca Brown