Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cronfa Fideos PYST x S4C 2026-27: Canllawiau

Cerddoriaeth

Mae’r bedwaredd Gronfa Fideos PYST x S4C yn agored nawr!

Mae’r Gronfa yn cynnig cefnogaeth ariannol o £500 i artistiaid sydd heb greu fideo cerddoriaeth iaith Gymraeg o’r blaen. Gall hynny fod yn artist neu fand hollol newydd sydd am greu eu fideo cyntaf, neu artist sydd am ryddhau eu cân gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cronfa eleni yn ariannu 20 fideo cerddoriaeth newydd.

Mae Gronfa yn agored nawr – cliciwch yma i ymgeisio.

 

Dyma ganllawiau’r Gronfa:

 

Creu a hyrwyddo

1.1 Bydd y fideo yn cael ei greu er mwyn hyrwyddo trac sydd heb ei ryddhau 

1.2 Bydd amseru rhyddhau’r fideo yn cael ei gytuno gyda PYST a bydd angen iddi gyd-fynd â rhyddhau y trac ar y platfformau ffrydio

1.3 Byddwch yn cydweithio â PYST trwy gydol y broses, gan gynnwys sgyrsiau cyson i’n diweddaru ar eich prosiect, cyngor rhyddhau a mwy. 

1.4 Bydd angen i ni dderbyn y fideo bythefnos cyn ei ryddhau

1.5 Cyfrifoldeb yr artist yw cyflwyno’r fideo gorffenedig ar fformat fydd wedi ei gytuno ymlaen llaw gyda PYST (bydd PYST yn gallu cynghori ar hyn) o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad darlledu’r fideo. Bydd yr artist/cyfarwyddwr hefyd yn cyflwyno ar yr un pryd, clip fertigol 30 eiliad o’r fideo ac o leiaf 3 ‘stills’ o’r fideo ar gyfer dibenion hyrwyddo.

1.6 Bydd angen nodi’r canlynol yn nisgrifiad y fideo: Rhan o gronfa fideos cerddorol PYST x S4C / Part of PYST x S4C music video fund

1.7 Dylid tagio cyfrifon @s4cmiwsig a @pystpyst wrth rannu’r fideo ar y rhwydweithiau cymdeithasol

1.8 Bydd y fideo yn cael ei rannu ar Am, a bydd gan S4C yr hawl i ddarlledu’r fideo ar rwydweithiau’r sianel

 

Hawlfraint a thaliadau

2.1 Mae’r artist yn cadarnhau bod yr holl hawliau angenrheidiol i ddarlledu’r fideo yn fyd-eang wedi eu sicrhau gan gynnwys caniatâd unrhyw rai sydd wedi gweithio ar y fideo, hawliau cerddorol ac unrhyw gynnwys ffilm ychwanegol 

2.2 Caiff arian y nawdd (£500) ei dalu mewn dau daliad o £250 (cyn ac ar ôl gorffen y fideo)

 

Termau ac amodau 

3.1 Bydd angen rhoi gwybod i PYST am unrhyw newid i’r cynllun gwreiddiol 

3.2 Ni fydd angen i’r artist ddosbarthu eu cerddoriaeth drwy PYST 

3.3 Ni chaniateir defnyddio arian y gronfa ar gyfer fideo sydd wedi’i chreu yn barod.

 

RHANNWCH