Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mae Crybaby yn ffilm fer animeiddiedig 2D bwerus gan y cyfarwyddwr awtistig o Gymru Eleri Edwards, a gynhyrchwyd trwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales gyda Biggerhouse Film. Mae’r stori’n dilyn Carys, menyw 24 oed, ond wrth iddi wacáu cartref ei phlentyndod mae’n cael ei thynnu i ofod arallfydol sydd wedi’i lethu gan focsys ac atgofion aflonydd. Mae ei beirniad mewnol, sydd wedi’i ddelweddu fel cysgod sgribl pensil blin, yn tarfu arni byth a hefyd.

Gan gyfuno profiad bywyd ag animeiddio trawiadol, mae Crybaby yn archwilio awtistiaeth, iechyd meddwl, ac effaith barhaus allgáu – wrth daflu goleuni ar y gwytnwch sydd ei angen i herio hunan-amheuaeth ac adennill hunaniaeth.

Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf erioed yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd cyn iddi gael ei dangos yng Ngŵyl Ffilmiau Encounters ym Mryste, ac mae bellach ar gael i’w gwylio’n unig drwy Am.

Mae cylch diweddaraf cronfa ffilmiau byrion Beacons Ffilm Cymru Wales ar agor nawr ac yn derbyn ceisiadau tan 12fed Mehefin 2026.

RHANNWCH