Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pan fo bydoedd yn cwrdd

Llenyddiaeth

Mae NIA MORAIS, cyn-Fardd Plant Cymru, newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o gerddi. Bu Barn yn ei holi am yr hyn sy’n ei hysgogi fel bardd. 

Teitl cyfrol newydd Nia Morais yw Yn y Freuddwyd, ac mae’r clawr lliwgar, ffantasïol yn adlewyrchu naws llawer o gynnwys y cerddi sydd y tu mewn. Yn ogystal â’r gerdd deitl, mae yma gerddi eraill sy’n sôn am freuddwydio neu am fydoedd eraill, ac nid yw mytholeg a chwedloniaeth fyth ymhell. Down ar draws nifer o ferched chwedlonol, gan gynnwys rhai o’r Mabinogi. Ond camgymeriad fyddai meddwl mai ymgolli’n llwyr mewn rhyw arallfyd a wneir yn y cerddi. Cerddi ydynt sy’n codi’n uniongyrchol o brofiadau Cymraes ifanc a’i hymdrech i wneud synnwyr o fywyd ond bod y mynegiant yn pendilio’n braf, a hynny weithiau o fewn yr un gerdd, rhwng y swrreal a’r diriaethol. Croeso i fyd hudolus Nia Morais. 

Diwrnod cyn lansiad y gyfrol, caf gyfle i’w holi am y gyfrol. Rydym ar Zoom, a haul anarferol o lachar diwrnod gwanwynol ym Mangor a Chaerdydd, lle mae Nia’n byw, wedi ein gorfodi ni’n dwy i dynnu’r bleinds. Un dawel a hamddenol ei ffordd yw Nia, ond mae hi’n dweud ei fod wedi bod yn brofiad cyffrous cael dal copi o’r gyfrol yn ei dwylo o’r diwedd. Mae’r diwyg a’r clawr – gwaith ffrind iddi sy’n artist – yn ei phlesio, meddai, ac mae’n edrych ymlaen i weld beth fydd ymateb y darllenwyr. 

Mae Nia wedi ysgrifennu dwy neu dair o ddramâu ac wedi cyhoeddi straeon mewn ambell gasgliad ynghyd â llyfr i blant, ond dyma’i chyfrol gyntaf o gerddi, er iddi olygu blodeugerdd o gerddi gan fenywod a ymddangosodd y llynedd. Wrth iddi weithio ar y gyfrol honno i Barddas y daeth y gwahoddiad gan y cyhoeddwr i greu cyfrol o’i cherddi ei hun ar gyfer cyfres Tonfedd Heddiw. Bu’n pendroni am ychydig cyn derbyn y gwahoddiad. 

‘Do’n i erioed wedi cysidro unrhyw beth fel yna o’r blaen – roedd e bron fel petai gen i ychydig bach o impostor syndrome. Er bod gen i ddiddordeb, roedd yn rhaid imi fynd i ffwrdd a meddwl sut fysen ni’n ’neud e a be fysen ni’n sgwennu amdano ac yn y blaen.’ 

Wrth fynd ati, penderfynodd gynnwys fersiynau Cymraeg o rai cerddi Saesneg oedd yn mynd yn ôl rai blynyddoedd, yn eu plith rai o’i dyddiau coleg. Teimlai Nia, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 30 y llynedd, fod lle i’w cynnwys gan eu bod yn adlewyrchu llawer o’i phrofiadau dros y degawd diwethaf. Achubodd ar y cyfle i newid rhai ohonynt wrth eu trosi i Gymraeg. Mae gweddill y cerddi yn newydd, ffrwyth y comisiwn ei hun. 

Mae Nia wedi bod yn ysgrifennu’n llawn amser mwy neu lai ers iddi adael coleg a hynny yn y ddwy iaith, er ei bod hefyd yn gweithio fel athrawes lanw ar hyn o bryd. Ar ôl graddio mewn Saesneg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Exeter, gwnaeth radd meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yng Nghaerdydd. Ei phrosiect mawr cyntaf oedd un gyda Theatr y Sherman yn ystod y clo mawr i greu dramâu clywedol fyddai’n adrodd straeon wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Dywed iddi gael budd o gynllun Ysgrifennu Newydd cwmni theatr Frân Wen ac o raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru, lle cafodd ei mentora gan Manon Steffan Ros. 

Yn 2023–25, wedyn, Nia oedd Bardd Plant Cymru. Gofynnaf iddi oedd hynny wedi cael dylanwad o gwbwl ar y cerddi yn y gyfrol. 

‘Dwi’n meddwl bod y cyfnod wedi helpu fy mhroses i fel sgwennwr. Dwi yn tueddu i fod yn berffeithydd a weithiau dwi’n gosod rhwystrau ar fy ffordd fy hun. Ond wrth fynd i mewn i ddosbarthiade efo’r plant, a’u cael nhw i greu rhywbeth – unrhyw beth – doedd dim amser i boeni gormod am y sgwennu ac addasu pethe bach, bach. O’n i jyst yn gorfod trysto fy hun bo fi’n gwbod be o’n i’n ’neud, yn y bôn! Ac mae hynny wedi bod yn ddefnyddiol i fi wedyn hefyd – yr hyder yna i fwrw mlaen.’ 

Mae yna lawer o brofiadau plentyndod Nia, a’i phrofiadau wrth dyfu’n hŷn, yn y gyfrol newydd. Mae rhai o’r cerddi hynny, a cherddi am ei theulu, ymhlith y rhai mwyaf trawiadol. Mae cerdd i’w thad yn cydnabod na fu’n dad perffaith fel rhai ‘mewn straeon’, ond caiff ei gofio’n annwyl er hynny. Mae cerdd neu ddwy, yr un mor dyner, am ei mam yn goroesi amser anodd i fagu ei theulu ifanc. Ac mae ei thaid a’i nain ar ochr ei thad yma hefyd. Deuai’r ddau o Cape Verde, casgliad o ynysoedd oddi ar arfordir Gorllewin Affrica. Roedd taid Nia yn y llynges fasnachol ac fe wnaeth y ddau gyrraedd Caerdydd yn y 1940au er mai ar ôl hynny y gwnaethant gyfarfod. Er i’r ddau farw pan oedd Nia’n blentyn bach, roedd wrth ei bodd yn clywed straeon ei brodyr hŷn amdanynt ac mewn ambell gerdd mae’n dychmygu sut y maent wedi cyfrannu at ei chreu hi fel person. 

Cymraes o Ferthyr yn wreiddiol, ond wedi byw mewn sawl lle pan oedd yn ifanc, yw mam Nia. Mae llawer o waith Nia yn trafod ei hunaniaeth, gan gynnwys ei hunaniaeth ethnig. Gofynnaf sut mae bod o dras gymysg yn bwydo’r gwaith. 

‘Weithie dwi’n teimlo bo’ fi yn y canol rhwng dau fyd, a ddim yn siŵr ble dwi’n perthyn, ond dyna pam fi’n trio clymu popeth i mewn gyda’i gilydd wrth sgrifennu. Dwi wastad wedi teimlo’n angerddol iawn dros allu siarad Cymraeg a bod yn Gymraes ac yn trio adlewyrchu hyn yn beth fi’n sgwennu.’ 

Thema amlwg arall yn y cerddi yw benyweidd-dra a chryfder neu ddioddefaint menywod. Cred Nia fod y profiad o olygu’r flodeugerdd o gerddi gan fenywod wedi dylanwadu arni yn hyn o beth. Wrth gomisiynu’r beirdd, gofynnodd iddynt am gerddi am fenywod enwog yr oeddynt yn eu hedmygu ond gan eu hannog hefyd i ysgrifennu am rai oedd yn rhan o’u bywydau nhw eu hunain. Ac wrth ddewis a llunio cerddi ar gyfer ei chyfrol ei hun, cafodd ei hun yn dilyn yr un trywydd. Ochr yn ochr â phortreadau o aelodau o’i theulu, felly, mae yma gerddi am arwresau hanesyddol fel Buddug, cymeriadau chwedlonol fel Arianrhod a Blodeuwedd, a llawer mwy. 

Heb fod lawn mor amlwg ac eto’n bresennol mewn cyfeiriadau dethol yma ac acw yn y cerddi mae rhan arall o hunaniaeth Nia, fel lesbiad. Gofynnaf iddi a yw trafod ei rhywioldeb mewn gwaith creadigol hefyd yn bwysig iddi felly? 

‘Dwi’n credu bod e. Dwi’n meddwl bod y sîn cwiyr Gymraeg wedi datblygu eitha lot dros y blynyddoedd dwetha a dwi wastad yn trio dangos balchder o fod yn rhan o hynny.’ 

Yn y bôn, mae Nia’n gweld yr holl wahanol agweddau hyn ar ei gwaith yn rhan o’r un peth, sef ei myfyrdod ar ei lle hi yn y byd a’i hymdrech i ddeall sut mae ei phrofiadau wedi ei chreu hi. A hithau eisoes wedi arbrofi â sawl ffurf, tybed beth sydd nesaf iddi ar ei siwrnai lenyddol? Mae’n ateb bron yn syth. 

‘Fydden i wir yn hoffi sgwennu nofel!’ 

Menna Baines

RHANNWCH