Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhwng Putin a Trump

Llenyddiaeth

O Estonia i’r Almaen ac o wlad Pwyl i Norwy, mae gwleidyddion a dinasyddion yn ymgodymu â’r ffaith fod realiti geowleidyddol newydd bellach yn bodoli yn ein byd. Ond beth yw’r ymateb ar yr ynysoedd hyn i’r newyddfyd hwn? 

A ninnau wedi ein dal rhwng Putin a Trump, fe ddylai fod yn gwbl amlwg fod ein byd ni, bobloedd Ewrop, wrthi’n newid yn sylfaenol. Mae gwledydd eraill gogledd Ewrop yn sicr yn sylweddoli hynny’n burion, a bywydau – bywydau beunyddiol hyd yn oed – yn prysur addasu i’r realiti geowleidyddol newydd. 

Yn Norwy a Denmarc, er enghraifft, mae aelodau fy nheulu yn dilyn cyngor y gwladwriaethau hynny ac yn cadw’r hyn a elwir yn Norwyeg yn beredskapslager yn eu cartrefi – storfa o fwyd a diod personol a fwriedir i’w cynnal trwy argyfyngau wedi eu creu gan ymosodiadau (boed rithiol neu real) ar isadeiledd economaidd a chymdeithasol y ddwy wlad. Pryder yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin bedair blynedd yn ôl oedd yr ysgogiad gwreiddiol ar gyfer ailafael o ddifri mewn amddiffyn sifil. Ond erbyn hyn, mae rhethreg ac ymddygiad yr Unol Daleithiau wedi ysgogi ymdrechion o fath gwahanol i sicrhau bod y cymdeithasau hyn mewn sefyllfa i wrthsefyll pwysau gan wlad arall sydd wedi troi tu min at y drefn ryngwladol yn ogystal â safonau moesol sylfaenol yn ei hymwneud â’r byd. 

Rwy’n ysgrifennu hyn o lith ar gyfrifiadur Americanaidd (Apple) gan ddefnyddio meddalwedd Americanaidd (Microsoft Word). Gan fy mod yn teithio ar drên wrth wneud hynny, byddaf yn prynu paned maes o law gan ddefnyddio system daliadau Americanaidd (Visa). Os oes rhywun angen cysylltu â mi yn ystod y daith, mae’n siŵr gennyf mai trwy neges WhatsApp y byddant yn gwneud hynny. Afraid dweud mai system Americanaidd arall yw hon – rhan o ymerodraeth Meta/Facebook. Mae’n gwbl amlwg, felly, fod technoleg a bywyd corfforaethol Americanaidd yn hydreiddio fy mywyd i. Os ydym yn fodlon â hynny ai peidio, fe fydd yr un peth yn union yn wir nid yn unig am y mwyafrif llethol o ddarllenwyr Barn ond hefyd gweddill trigolion y cyfandir hwn. Gan fod corfforaethau mawr yr Unol Daleithiau yn cowtowio i’w Harlywydd – gŵr sydd wedi mynnu a sicrhau lefel o rym cyfuwch ag unrhyw Frenin absoliwtaidd, ac sy’n aderyn o’r unlliw â Putin o ran ei agweddau – rydym oll yn ddibynnol ar rymoedd na allwn ymddiried ynddynt. 

Nid oes angen treulio llawer o amser yng ngwledydd Llychlyn i sylwi ar yr ymdrech boblogaidd sydd ar droed yno i chwilio am fersiynau Ewropeaidd amgen o’r technolegau Americanaidd hyn er mwyn gallu ymddihatru o’u gafael. Felly, a nodi enghraifft bersonol, gan ddilyn cyfarwyddyd pendant gan fy meibion, yr wyf bellach yn defnyddio Vivaldi (Norwy) ac Ecosia (yr Almaen) yn lle Safari (porwr gwe) a Google (peiriant chwilio). Y cam nesaf fydd cael ’madael ar Word. 

Wedi degawdau o ragdybio y gallwn wneud ein hunain yn gwbl ddibynnol ar yr Unol Daleithiau heb boeni’n ormodol am y canlyniadau, ni fydd y broses o newid yn un rwydd nac yn un gyflym. Ond o leiaf mae’r broses honno wedi cychwyn. Yn allweddol, hyd yn oed os nad ydynt yn clochdar y ffaith rhag ennyn llid y mympwyol, ansefydlog Drump, mae yna wladwriaethau sydd bellach yn cymryd camau i’r un cyfeiriad. 

Yn ogystal â cheisio sicrhau bod eu cymdeithasau’n fwy gwydn yn fewnol, mae’r un gwladwriaethau wrthi’n ddyfal yn ceisio sicrhau bod eu hamddiffynfeydd allanol yn gryfach. O Estonia i’r Almaen ac o Wlad Pwyl i Norwy, mae mwy o arian ac adnoddau’n cael eu dargyfeirio i amddiffyn. Mae Denmarc, i nodi enghraifft arall, newydd ailgyflwyno gwasanaeth milwrol gorfodol i ferched yn ogystal â dynion ifanc ac wedi cynyddu ei chyllideb filwrol yn sylweddol. 

Yr hyn sy’n drawiadol yw’r ffaith fod yna gonsensws gwleidyddol ym mhob un o’r gwledydd hyn o blaid cymryd camau o’r fath. Yng ngwledydd Llychlyn mae hyn yn cynnwys pleidiau’r ‘Chwith Nordig’. Dyma’r pleidiau a sefydlwyd tua throad y 1970au yn rhannol oherwydd fod y sylfaenwyr yn credu bod y pleidiau Llafur traddodiadol yn rhy slafaidd o gefnogol i NATO – pleidiau sy’n agos iawn at Blaid Cymru o ran agwedd ac anian. Yn Norwy mae hyd yn oed Rødt (y gair Norwyaidd am ‘coch’), plaid y gellir olrhain ei gwreiddiau i’r mudiad comiwnyddol Maoaidd, yn cydsynio. 

Unwaith yn rhagor, ymddygiad Rwsia yn Wcráin oedd y gyriant gwreiddiol ar gyfer y penderfyniad i gymryd amddiffyn o ddifri. Mae’n werth cofio yn hyn o beth fod Putin wedi ei gwneud hi’n allblyg amlwg nad yw’n derbyn annibyniaeth gwledydd bach y Baltig yn fwy nag y mae’n fodlon cydnabod dilysrwydd bodolaeth Wcráin. Ond erbyn hyn, mae’r ffaith fod yr Unol Daleithiau wedi bygwth tiriogaeth Denmarc yn yr Ynys Las, a hynny er gwaetha’r ffaith fod Denmarc yn un arall o’r gwledydd hynny sydd wedi credu bod ganddi ‘berthynas arbennig’ â Washington, yn gymhelliad ychwanegol i wledydd Llychlyn leihau dibyniaeth ar eraill a sefyll ar eu traed eu hunain. Bydd cyhoeddi strategaeth diogelwch cenedlaethol ddiweddaraf yr Unol Daleithiau ym mis Rhagfyr y llynedd – strategaeth sy’n nodi gwerthoedd rhyddfrydol Ewropeaidd fel bygythiad – wedi gweithredu fel hwb pellach i’r un cyfeiriad. Wedi’r cyfan, pan mae Rwsia, a bellach yr Unol Daleithiau, yn dweud ar goedd eu bod yn gwrthwynebu ein ffordd o fyw, byddai’n ffôl peidio â’u cymryd ar eu gair, yn enwedig a hwythau wedi dangos eu bod yn fodlon rhyfela’n ddirybudd a heb gyfiawnhad o fath yn y byd. 

Ond mae’n ymddangos mai gwlad ffôl ydi Prydain! Yn sgil gwallgofrwydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, rydym wedi colli amddiffyniad economaidd y farchnad sengl. O’r herwydd, hyd yn oed petai Starmer yn meddu’r asgwrn cefn i wneud hynny, fe fyddai’n anodd i Brydain efelychu safiad llywodraeth Sbaen mewn perthynas â rhyfel anghyfreithlon, anfoesol ac annoeth yr Unol Daleithiau ac Israel yn erbyn Iran. 

Ar ben hynny, oherwydd mai ystyriaethau symbolaidd a pherfformiadol sydd wedi gyrru polisi amddiffyn Prydain ers degawdau lawer, mae ein lluoedd arfog yn wan ac yn gwbl ddibynnol ar rai’r Unol Daleithiau. Fe fydd dibyniaeth Prydain, boed hynny’n filwrol, yn wleidyddol, neu’n gymdeithasol, yn parhau ac yn wir yn dwysáu oni bai fod yna benderfyniad i ‘ddewis Ewrop’. Gyda’r adain dde am y gorau’n ceisio mewnforio gwleidyddiaeth Drumpaidd a Llafur ofn pechu yr hyn sy’n weddill o gefnogwyr Brexit, pwy mewn difri sy’n gallu credu y bydd hynny’n digwydd? Haws o lawer malu awyr ynglŷn â NATO a’r ‘special relationship’ bondigrybwyll na mynd i’r afael o ddifri â’r newidiadau sydd ar droed o’n hamgylch. 

Teg yw gofyn a fyddai Cymru annibynnol yn wahanol? Wedi’r cyfan, nodweddwyd syniadau’r mudiad cenedlaethol ynglŷn ag amddiffyn gan ystrydebau cysurlon yn hytrach na dadansoddi deallus. Dylem wario cyn lleied ar amddiffyn ag Iwerddon, meddai rhai, a hynny er bod y wlad honno wedi tanwario ar amddiffyn i’r fath raddau nes ei bod yn gorfod gwahodd Prydain, o bawb, i’w chynorthwyo i amddiffyn ei moroedd ei hun. Neu beth am efelychu Costa Rica, meddai eraill? Dyma wlad sydd wedi ei gadael ei hun yn gwbl ddiamddiffyn, a gwlad sydd, oherwydd ei dibyniaeth lwyr ar yr Unol Daleithiau, yn gwbl ufudd iddi. Oni ddylid cymryd ystyriaethau o’r fath o ddifri yn hytrach na’u hanwybyddu? Nid y pleidiau Prydeinig yn unig sydd angen cydnabod y graddau yr ydym bellach wedi ein dal rhwng Putin a Trump ac, oherwydd hynny, fod yn rhaid meddwl mewn ffyrdd cwbl newydd am ein lle yn y byd. 

Richard Wyn Jones 

RHANNWCH