Daeth cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU am ddau gynllun gwynt ar y môr arfaethedig â hwb mawr i sector ynni gwyrdd Cymru. Yn eu sgil daw addewidion sylweddol o ran swyddi a digon o drydan ar gyfer mwy na hanner cartrefi Cymru.
Fferm wynt Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro yw un o’r cynlluniau hynny – gyda thyrbinau yn arnofio, hon fydd y gyntaf o’i math yng Nghymru. Awel y Môr oddi ar arfordir Sir Conwy yw’r ail. Mae’n newyddion da yn amgylcheddol ac i’r sector ynni gwyrdd, gyda photensial o hyd at 7,000 o swyddi newydd. Mae hefyd yn atgyfnerthu’r neges bod lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil yn parhau i fod yn ganolog.
Cwmnïau o’r tu allan i Gymru sydd y tu ôl i’r ddau gynllun – RWE o Ffrainc a Blue Gem Wind, menter ar y cyd rhwng Octopus a chwmni rhyngwladol Total Energies. Y flaenoriaeth iddyn nhw, wrth reswm, fydd eu buddsoddwyr, a hynny’n amlygu gwendid y drefn ym Mhrydain o ran sicrhau budd lleol o gynlluniau ynni mawr. Ar hyn o bryd, prin yw’r gofynion statudol i sicrhau bod arian, cyfleoedd na seilwaith yn cael eu gadael i’r ardaloedd sy’n cynnal prosiectau fel hyn. Heb system sy’n gorfodi, mae’n anodd rhagweld faint o’r manteision fydd yn gwirioneddol aros yn lleol.
Yn Menter Môn, rydyn ni’n ceisio gwneud pethau yn wahanol. Mae ein cynlluniau ynni mewn perchnogaeth leol yn llwyr a’r hyn sy’n ein gyrru ni fel sefydliad yw cydweithio gyda chymunedau i sicrhau bod unrhyw elw ddaw yn sgil ein prosiectau yn cael ei fuddsoddi’n lleol. Rydyn ni wedi profi ei bod hi’n bosib meddwl yn greadigol wrth ystyried buddiannau ardal. Yn hytrach na chlustnodi swm o arian i gronfa, mae cydberchnogaeth yn cynnig gwell ffordd o sicrhau bod cymuned yn elwa o gynllun ynni. Mae’n golygu bod datblygiad yn dod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud gyda chymuned yn hytrach nag i’r gymuned.
Mae model sydd ar waith yn Denmarc ers blynyddoedd yn dangos yr hyn sy’n bosib, gydag o leiaf 20% o bob cynllun ynni gwynt mewn perchnogaeth leol. Mae’n golygu gwell perthynas gyda chymunedau – ac yn ogystal â rhannu enillion economaidd, mae datblygiadau’n cael eu gweld fel asedau cymunedol ac yn ffordd o yrru’r broses o drawsnewid i economi gwyrdd mewn ffordd deg.
Rhaid i ni weld cynlluniau ynni adnewyddadwy fel cyfle i adfywio ardal, nid dim ond fel ffordd o gynhyrchu trydan. O weithio mewn partneriaeth, gallai prosiectau fel y rhain hybu twf busnesau, creu cyfleoedd i ysgolion a cholegau, datblygu sgiliau, a helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.
Ond mae angen bod yn greadigol ac yn feiddgar. Mae cefnogaeth ac awydd llywodraeth yn allweddol i roi cymuned wrth galon unrhyw ddatblygiad o’r cychwyn. Heb gyfundrefn gadarn yn ei lle sy’n sicrhau budd i ardal, gall y sector ynni gwyrdd fod yn un sy’n ecsbloetio yn yr un modd ag yr oedd y diwydiant glo a llechi, gan adael ardaloedd yn dlotach yn eu sgil. Mae cyfle go iawn yma i ni greu dyfodol gwyrdd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, ond yn deg i gymunedau Cymru hefyd.
Gerallt Llewelyn Jones