Premiére Rhaglen Ddogfen Ar-lein
Ymunwch â ni ar gyfer premiére ar-lein o National Youth Dance Wales: 25 Years of NYDW, rhaglen ddogfen fer sy’n dathlu chwarter canrif o dalent ifanc, rhagoriaeth artistig, ac effaith genedlaethol, a ffilmiwyd gan On Par Productions.
Gan nodi 25 mlynedd o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, mae’r ffilm yn myfyrio ar siwrnai’r sefydliad a’r dawnswyr, artistiaid, partneriaid a chymunedau sydd wedi siapio ei waddol. Trwy rannu atgofion a myfyrdodau mae’r rhaglen ddogfen yn cyfleu gwerthoedd, uchelgais a dylanwad DGIC dros y 25 mlynedd diwethaf.
Dyddiad: Dydd Mercher 28 Ionawr
Amser: 7.00pm–7.15pm
Lleoliad: Ar-lein – Platfform Digidol Am