Nid arbenigo’n unig ar wleidyddiaeth y presennol y mae ein colofnydd. Ef hefyd yw’r arbenigwr pennaf ar hanes ideolegol y mudiad cenedlaethol Cymreig modern. A Phlaid Cymru yn dathlu’i chanmlwyddiant eleni, nid rhyfedd iddi ei wahodd i annerch cinio cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Abertawe ar 10 Hydref. Wele fersiwn ar gyfer BARN o’i sylwadau.
Diolch am y fraint o gael annerch cinio’r gynhadledd a hynny’n ystod y flwyddyn y mae’r blaid yn dathlu ei chanfed pen‑blwydd ac ar drothwy’r hyn a all brofi i fod y flwyddyn fwyaf yn ei hanes. Rydych wedi estyn y gwahoddiad gan wybod yn iawn na fyddaf yn ceisio gwyngalchu neu wenieithu. Fe geisiaf fy ngorau i beidio â’ch siomi yn hynny o beth!
Er mwyn trefnu fy sylwadau, rwyf am addasu un o sloganau enwocaf y mudiad cenedlaethol a ragflaenodd Blaid Cymru, sef Cymru Fydd. Dyma’r mudiad oedd yn cynnwys unigolion megis Tom Ellis, David Lloyd George, Llewelyn Williams a’r gweddill. Y slogan sydd mewn golwg gennyf yw ‘Cymru Fu, Cymru Sydd, Cymru Fydd’ neu, o’i haddasu, ‘Plaid Cymru Fu, Plaid Cymru Sydd, Plaid Cymru Fydd’.
Plaid Cymru Fu
Fel y diweddar Frenhines a’r Brenin presennol, mae gan Blaid Cymru ddau ben‑blwydd – ei phen‑blwydd go‑iawn a’i phen‑blwydd swyddogol! Eleni, yr ydych wedi bod yn dathlu eich canfed pen‑blwydd yn ôl y mesur swyddogol. Mae hynny’n ei dro wedi esgor ar wahanol gyhoeddiadau i nodi’r achlysur. Yn naturiol, rwy’n gobeithio eich bod eisoes wedi mynnu copi o fy nghyfraniad i, sef Rhoi Cymru’n Gyntaf (Gwasg Prifysgol Cymru, ailargraffiad 2025)! Ga’i hefyd gymeradwyo i’ch sylw gyfrol ysblennydd Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd, Dros Gymru’n Gwlad (Y Lolfa, 2025).
Un o’r pethau y mae’r ddwy gyfrol yma’n ceisio ei wneud ydi adfer y cof am rai o’r unigolion hynny’n hanes Plaid Cymru sydd wedi mynd yn angof er eu bod wedi chwarae rhan allweddol wrth sefydlu ac yna adeiladu’r blaid ifanc. Nid yw crybwyll a chydnabod eu cyfraniad yn mennu dim ar gyfraniad yr enwau mwy cyfarwydd, wrth gwrs. Ond a ninnau’n cofnodi canrif o fodolaeth y Blaid, tybed ga’i ganolbwyntio ar ddau o’r enwau angof gan awgrymu hefyd pa elfennau o’u cymeriad sy’n werth eu hefelychu?
Y cyntaf ydi Evan Alwyn Owen o Ryd‑ddu. Ef oedd yr un â’r weledigaeth egluraf pam oedd angen Plaid Cymru a beth ddylai fod yn briod nod iddi. Gwrandewch ar ei eiriau o yn 1924:
Yr wyf yn fwy cadarn nag erioed dros gael Plaid Genedlaethol Gymreig… trwyddi hi, a hi yn unig y sicrha Cymru y mesur llwyraf o Ymreolaeth; hefyd gwelaf ynddi – ar ôl trwytho y trigolion â’r ysbryd Cenedlaethol – foddion rhagorol i ymladd am Annibyniaeth Lwyr.
Oedd, roedd Owen yn gradualist, a hynny cyn bod unrhyw un wedi clywed am y gair yn y cyd‑destun cyfansoddiadol – ara’ deg mae dal iâr. Ond yr oedd hefyd yn gwbl eglur, dibetrus a diymddiheuriad ynghylch yr amcan hirdymor yr oedd am i’r blaid gyrchu tuag ato.
Yr oedd yr ail unigolyn hefyd yn un o etifeddion cadernid Eryri, sef Mai Roberts, Deiniolen. Cyfraniad mawr Mai Roberts oedd iddi fod yn ddolen gyswllt rhwng y blaid ifanc a’r rheini mewn pleidiau eraill oedd yn rhannu llawer o’r un dyheadau. Ar ben hynny, bu’n bont rhwng Plaid Cymru’r dyddiau cynnar a’r cylchoedd hynny yng nghymdeithas sifil Cymru yr oedd hi’n troi mor rhwydd ynddyn nhw.
Ga’i awgrymu y bydd Plaid Cymru angen peth o ysbryd y ddau yma yn y cyfnod nesaf sy’n ei gwynebu? Cyfuniad o bendantrwydd a gweledigaeth eglur ar y naill law, a’r gallu i estyn allan a chodi pontydd at gynghreiriaid posib ar y llaw arall.
Plaid Cymru Sydd
Ganrif yn ddiweddarach ac mae Plaid Cymru ar i fyny i raddau a fyddai wedi rhyfeddu Evan Alwyn a Mai Roberts. Yn ôl pob golwg, mae hi bellach ar drothwy ei chanlyniad gorau erioed mewn etholiad ar gyfer Senedd Cymru – canlyniad a all olygu y bydd hi’n arwain Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf erioed, a hynny ychydig dros flwyddyn ers iddi sicrhau ei chanlyniad gorau erioed mewn etholiad cyffredinol Prydeinig. Ond tra mae hyn oll yn ddiau’n wir, gobeithio y ca’i faddeuant am awgrymu fersiwn llai cysurlon o realiti Plaid Cymru Sydd? Onid yw hefyd yn wir dweud fod Plaid Cymru wedi cael ei hamsugno i mewn i fersiwn o ymreolaeth sy’n amddiffynnol ac yn wir yn geidwadol ei natur yn hytrach nag yn drawsffurfiol ei fwriadau a’i gyraeddiadau?
O ystyried realiti hanes Cymru ynghyd â thirwedd gwleidyddol y Gymru gyfoes, dichon fod hyn yn gwbl ddealladwy ac efallai’n wir yn anorfod. Heb os, fe chwaraeodd y Blaid rôl allweddol yn sefydlogi ac adeiladu sefydliadau datganoledig Cymru mewn cyfnod pan oedden nhw’n wan eithriadol. Serch hynny, rwy’n meddwl ei bod yn hollbwysig fod pawb ym Mhlaid Cymru’n sylweddoli fod y fersiwn yma o ymreolaeth neu ddatganoli – a defnyddio’r enw cyfoes – wedi rhedeg allan o stêm a hynny’n derfynol. Dyma’r fersiwn o ddatganoli a orseddwyd gan Rhodri Morgan yn 2000 ac a hunodd ym mis Mawrth 2024 pan enillodd Vaughan Gething ei frwydr yn erbyn Jeremy Miles. Dyma’r fersiwn o ddatganoli sy’n ystyried mai prif bwrpas Senedd a Llywodraeth Cymru ydi ceisio rhwystro pethau drwg rhag digwydd i Gymru, boed hynny’n sgil marchnadaddoliaeth Tony Blair a Llafur Newydd neu bolisïau llymder Cameron, Osborne a Clegg.
Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wastad wedi credu y dylai fod llawer mwy i ymreolaeth – i home rule – na’r hyn a welsom ers 1999. Eto i gyd, ar ôl chwarter canrif lle gwelwyd llywodraeth ar ôl llywodraeth yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar amddiffyn a gwarchod yn hytrach na cheisio trawsnewid y wlad mewn modd sylfaenol, byddai’n rhyfedd pe na bai’r agwedd yma wedi gadael ei hôl ar y blaid hithau.
Ydi mae Plaid Cymru Sydd mewn sefyllfa gref. Ond fe fydd mewn sefyllfa gryfach fyth o sylweddoli fod ei chryfder presennol yn adlewyrchu’r modd y mae Cymru, fel gweddill y byd, wedi newid. Yn y byd hwn a’r Gymru hon, tydi ‘meddylfryd y Cynulliad’ – fel yr wyf wedi ei ddisgrifio yn nhudalennau BARN – ddim yn mynd i dycio. I’r graddau y mae’r meddylfryd hwn wedi gwreiddio yn y blaid dros y chwarter canrif diwethaf, mae angen ei waredu ar fyrder.
Plaid Cymru Fydd
Y wobr sydd bellach o fewn eich cyrraedd fel plaid ydi’r posibiliad o gael arwain llywodraeth genedlaethol yng Nghymru am y tro cyntaf erioed. Mae’n anodd gor‑ddweud faint o newid diwylliannol y byddai hyn yn ei gynrychioli i Blaid Cymru – y mwyaf ers ethol Gwynfor Evans i San Steffan yn 1966 efallai?
Fe fydd rhai ohonoch eisoes wedi clywed fy mhregeth am beth y dylai ein gwybodaeth ynglŷn â diffyg capasiti y gwasanaeth sifil yng Nghymru ei olygu o ran paratoi ar gyfer y posibiliad o arwain llywodraeth. Mewn byr eiriau, llawer iawn llai o’r deddfau symbolaidd ond cwbl ddisylwedd yna sydd wedi eu pasio gan ein deddfwrfa genedlaethol dros y blynyddoedd – amlygiadau o ‘feddylfryd y Cynulliad’ ar ei waethaf – a blaenoriaethu llym o ran y pethau sydd wir yn cyfrif ac y gellir eu gwireddu. Ond heno ga’i godi un bwgan arall y bydd yn rhaid i’r Blaid ei wynebu os y caiff gyfle i ffurfio llywodraeth.
Mae Plaid Cymru yn blaid flaengar ac yn ymfalchïo yn hynny. Fe fydd hi, rwy’n siŵr, am barhau i fod yn flaengar os a phan fydd hi’n ffurfio llywodraeth, gan lunio a gweithredu polisi blaengar yn y meysydd rheini sy’n gyfrifoldeb i’n Senedd genedlaethol. Popeth yn dda. ’Chewch chi ddim beirniadaeth genna’i am hynny – cyn belled â’n bod ni’n gallu cytuno fod llawer o bolisïau sydd wedi eu cyflwyno yng Nghymru dros y chwarter canrif diwethaf dan faner ‘blaengarwch’ wedi arwain at ganlyniadau sydd yn union i’r gwrthwyneb i hynny.
Cymerwch faes addysg. Mae’n ffaith fod cyrhaeddiad addysgol plant o’r cefndir tlotaf yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn sylweddol well na chyrhaeddiad plant o’r un cefndir yng Nghymru. Am resymau da yn aml, mae Llywodraeth Cymru wedi gwaredu y dulliau a ddefnyddir mewn llefydd eraill i wella perfformiad – diwylliant y targedau a’r tablau. Ysywaeth, tydi hi ddim wedi canfod ffyrdd effeithiol eraill o symud pethau yn eu blaenau.
Yn yr un modd, er fod Llywodraeth Cymru’n honni fod gennym y system fwyaf blaengar o gefnogi myfyrwyr yn ariannol ar draws y wladwriaeth, mae’n ffaith fod pobl ifanc o gefndiroedd tlawd o Gymru lawer yn llai tebygol o fynychu prifysgol na phobl ifanc o’r un cefndir o Loegr. Yn wir, mae’r ganran o ddynion deunaw oed o Gymru sy’n mynd i’r brifysgol mor isel fel y byddai’n cael ei hystyried yn sgandal genedlaethol pe bai gennym wasg sy’n fwy effro. Tydi ‘blaengarwch’ ddim yn flaengarwch go‑iawn os mai’r canlyniad ydi niweidio bywydau’r tlotaf a’r mwyaf diymgeledd.
Nid dadlau yr ydw i y dylai Llywodraeth Plaid Cymru gysylltu â ‘Tony Blair Associates’ a chyflwyno technegau’r ‘new public management’ yng Nghymru. Ond wedi dweud hynny, os yw Plaid Cymru Fydd o ddifri am ‘godi cenedl’ bydd yn rhaid iddi ganfod ffyrdd o fod yn llywodraeth effeithlon yn ogystal ag yn llywodraeth flaengar. A chyfeillion, haws dweud na gwneud. Mae honno’n her wirioneddol fawr; efallai’r her fwyaf fydd yn eich gwynebu.
‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑‑
Wrth derfynu, mae’n naturiol ein bod yn troi ’nôl at ddelfrydau’r genhedlaeth honno a sefydlodd y blaid, yn ogystal â’r cenedlaethau a ddaeth ar eu hôl a fu’n cynnal a datblygu Plaid Cymru a hynny’n aml mewn amgylchiadau a oedd yn anodd tu hwnt. Chi ydi etifeddion yr holl ymdrech a’r holl aberth sydd wedi arwain y blaid at y fan hon. Rydych bellach o fewn cyrraedd rhywbeth gwirioneddol arbennig. Ymlaen mae Canaan!
Richard Wyn Jones