Cartref digidol diwylliant Cymru.

Herio’r drefn ym Morocco

Llenyddiaeth

Mae’r protestiadau diweddar ym Morocco yn fynegiant o anniddigrwydd cyffredinol gyda sawlagwedd ar fywyd y wlad. Yma mae un sy’n ymchwilio i esblygiad hunaniaeth genedlaethol ynodros y blynyddoedd diwethaf yn edrych ar rancerddoriaeth gyfoes a phêl-droed yn ymddangosiadto ifanc sy’n gynyddol feirniadol o’r drefn.

Yn niwedd Medi a dechrau Hydref lledaenodd protestiadau a therfysgoedd lu ar draws Morocco,gan esgor ar wrthdaro treisgar â’r heddlu. Wrth imi ysgrifennu roedd tri phrotestiwr wedi’u saethu’nfarw–gan luoedd diogelwch fe honnir–a thros 500 wedi’u harestio, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Mudiad GenZ 212 sydd y tu ôl i’r protestiadau hyn–gyda ‘GenZ’yn cyfeirio at y genhedlaeth ohonom a anwyd rhwng tua 1997 a 2012,yn fras, a ‘212’yn cyfeirio at gôd ffôn rhyngwladol Morocco (er, yn eironig ddigon, mai ar blatfform gemau a ffrydio Discord y mae’r protestwyr yncyfathrebu). Fel sy’n wir, heb orgyffredinoli, am wrthdystiadau cyffelyb sydd wedi codi o blith y toifancyn Nepal, Periw, Madagascar a gwledydd eraill ers mis Medi, mae’r protestiadau â’u gwraiddyn anniddigrwydd yr ifanc ynghylch anghyfartaledd cymdeithasol. Dyma wledydd lle mae’rgenhedlaeth hon yn ffurfio cyfran uchel o’r boblogaeth: ym Morocco, er enghraifft, mae oddeutuhanner y boblogaeth o dan 30 oed.

‘Ysbytai, nid stadiymau’ yw’r gri sy’n rhoi min unigryw ar y protestiadau ym Morocco. Hynny amfod y wladwriaeth yn tywallt $5bn honedig ar isadeiledd ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2030, agynhelir ar y cyd âSbaen a Phortiwgal. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys adeiladu (ar gryn frys) bethfydd stadiwm bêl-droed fwya’r byd, yn dal 115,000 o bobl. Mae’r gwrthdystwyr yn cymharu hynnyâ’r hyn a welant fel diffyg buddsoddi enbyd mewn gofal iechyd. Yn 2023, dim ond 7.8meddygoedd ar gyfer bob 10,000 o bobl–ymhell islaw argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) o 23.

Er iddo ildio llawer o’i bwerau i’r deddfwrfeydd a chyflwyno diwygiadau democrataidd yn 2011,galw ar y Brenin, Mohammed VI, i ymyrryd y mae’r protestwyr.Ymhlith eu gofynion, yn ogystal âbuddsoddi mewn gofal iechyd, mae addysg o safon am ddim, tai gweddus a fforddiadwy, gwelltrafnidiaeth gyhoeddus, gwell cyflogau a phensiynau, a chyfleoedd gwaith i’r ifanc mewn gwlad llemae diweithdra yn eu plith yn uchel.

Maen nhw’n galw hefyd am ddisodli’r Ffrangeg gyda’r Saesneg fel ail iaith swyddogol (ar ôlArabeg). Mae hynny’n rhan o don gyffredinol o gwestiynu hunaniaeth genedlaethol ymhlith Morociaid ifanc. Mi fûm i yn y wlad ym mis Chwefror eleni fel rhan o brosiect ymchwil yn ystodhanner cyntaf fy ngradd, i edrych ar y modd y gellir olrhain esblygiad hunaniaeth genedlaethol drwy edrych ar y diwydiant cerddoriaeth. Mae modd sôn am gyfres o ddigwyddiadau fu’n rhan o’resblygiad hwn ers tro’r ganrif.

Y man cychwyn–er mai un symbolaidd ydoedd yn anad dim–oedd esgyniad Mohammed VI i’rorsedd yn 1999. Dyma a osododd y seiliau ar gyfer yr ‘adfywiad’ (Nayda) cerddorol a welwyd wedihynny. Dan anogaeth a nawdd y brenin, sefydlwyd gorsafoedd radio preifat ar gyfer pobl ifanc agwyliau cerddorol cenedlaethol, gan roi llwyfan cenedlaethol i grwpiau ‘beiddgar’, y tu hwnt i’r‘diwylliant swyddogol’. Ar yr un pryd, daeth buddsoddiad newydd mewn gwyliau sy’n darparu argyfer twristiaid yn bennaf–Jazzablanca yn Casablanca neu Ŵyl Gerdd Gnawa a’r Byd yn Essaouira.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd yr ysbryd herfeiddiol hwn ymhlith ieuenctid ynparhau, gyda’r awydd am ryddid mynegiant dilyffethair yn ei amlygu’i hun trwy gerddoriaeth. Ym mis Chwefror 2003 carcharwyd 14o gerddorion a dilynwyr bandiau metel trwm yn Casablanca amfynd yn groes i erthygl 267–5 y côd penydiol (tanseilio Mwslemiaeth Sunni, y frenhiniaeth, neu’rdiriogaeth) yn eu cerddoriaeth a’u hymarweddiad ‘Satanaidd’. Esgorodd hynny ar brotestiadau lu abarodd am ddyddiau, digwyddiad a gaiff ei adnabod fel L’affaire. Yn y pen draw, rhyddhawyd y 14ar gais y Brenin. Roedd ef ar y pryd, ers digwyddiadau 9/11 ddwy flynedd cyn hynny, wrthi’n gosod agenda gwrthderfysgaeth, gan hyrwyddo cenedl fwy ‘goddefgar’ acaml-ffydd, yn ogystal âhyrwyddo Mwslemiaeth fwy cymedrol yn wyneb ffwndamentaliaeth.

Yn sgil L’affaire, gwelwyd ychwaneg eto o awch i herio’r diwylliant swyddogol wrth i gerddorionifanc archwilio themâu fel rhywioldeb a thlodi, a chanu yn Saesneg a Ffrangeg yn ogystal â Darija(y dafodiaith o’r Arabeg a siaredir yno). Daeth cynulleidfaoedd yn fwyfwy agored i gerddoriaeth o’rfath hefyd, a’r ddau beth yn cyfrannu at greu gofodau newydd i drafod hunaniaeth genedlaethol achrefyddol.

Credir mai’r protestiadau GenZ 212 diweddar yw’r mwyaf eang yn ddaearyddol yn y wlad ers ygwrthryfeloedd hynny yn 2011 oedd yn rhan o’r Gwanwyn Arabaidd. Lledaenodd Mudiad yr 20fedo Chwefror ar draws 70 o ddinasoedd y wlad, gyda’r gofynion yn fwy gwleidyddol eu natur brydhynny. Esgorodd y mudiad hwnnw ar ddiwygiadau cyfansoddiadol o bwys. Y tu hwnt i’r rhaidemocrataidd a grybwyllwyd uchod, un o’r prif newidiadau oedd rhoi cydnabyddiaeth swyddogol iTamazight–yr iaith a siaredir gan gymunedau Amazigh (Berberaidd)–a chreu sefydliad brenhinoler mwyn diogelu a hybu’r diwylliant. Gyda hynny, yn symbolaidd o leiaf, daeth mwy ogydnabyddiaeth o le’r cymunedau Amazigh hyn oddi mewn i’r ‘genedl’.

Fe ffrwydrodd y cwestiwn am hunaniaeth eto adeg Cwpan Pêl-droed y Byd Qatar 2022, panlwyddodd y tîm cenedlaethol i gyrraedd y rownd gyn-derfynol. Gwelwyd hwy’n dathlu euhunaniaeth Arabaidd yn falch, gan chwifio baner Palestina ar ddiwedd yr ornest yn erbyn Sbaen, abu cyfres o lwyddiannau i chwaraewyr Amazigh yn gyfle i ddathlu hunaniaeth luosog Morocco.

Y tîm hwn–Llewod yr Atlas–oedd y cyntaf o gyfandir Affrica i gyrraedd cyn belled yngNghwpan y Byd. Ers degawdau, mae golygwedd Morocco wedi bod tuag Ewrop–fe geisiodd ywlad ymuno â’r Comisiwn Ewropeaidd (fel ag yr oedd) yn 1987. Ond yn gynyddol, mae hi wediedrych tuag Affrica gan ymuno â’r Undeb Affricanaidd yn 2017, ac mae cydnabyddiaeth gynyddolymysg Morociaid o’u hunaniaeth Affricanaidd. Daw hynny i’r amlwg yn y diwydiant cerddoriaethhefyd. Yn ystod fy ymweliad â’r wlad, clywais lawer am bartneriaethau diwylliannol newydd gydagwledydd eraill y cyfandir, prosiectau felAfrikanya,Africa Art Lines, aVisa for Music–‘mae’ndod yn thema,’ medd un sy’n curadu gweithgarwch yr American Arts Center yn Casablanca.

Cydnabod a dathlulluosogrwydd yr hunaniaeth genedlaethol–‘cenedlaetholdeb amgen’, chwedl yrysgolhaig Nadia Kiwan–yw’r datblygiad mwyaf nodedig yma. Un prawf o hynny oedd y nythcacwn a gododd yr asgellwr Soufiane Boufal ar ôl i Morocco guro Sbaen yn Qatar, pan ddywedoddfod y fuddugoliaeth yn un i’r ‘Morociaid, i’r Arabiaid, a’r Mwslimiaid’, gan hepgor yr Amazigh a’rAffricaniaid, er enghraifft.

Mae ymdeimlad cryf o hunaniaeth yn rhan o brotestiadau GenZ 212, fel sy’n elfen greiddiol o’rhanes hir o brotestio ymhlith Morociaid ifainc. Mae’n werth nodi mai galw ar y Brenin, symbol osefydlogrwydd ac undod cenedlaethol, i weithredu y maen nhw. Fel mewn gêm bêl-droed, mae dwyochr–dau dîm, os mynnwch–i hunaniaeth genedlaethol: yr hyn a deimlir gartref, a’r hyn agyflwynir oddi cartref. Paratoi i wynebu sylw’r byd y mae Morocco pan ddaw Cwpan y Byd ymhenpum mlynedd, digwyddiad sydd eisoes yn peri cryn ymrafael rhwng y ddwy ochr.

Gruffudd ab Owain

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyda chymorth Cronfa Dyfed Elis-Gruffydd sy’ngalluogi BARN iddatblygu cyfranwyr a newyddiadurwyr ifanc.

RHANNWCH