Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gall, fe all Reform ennill

Llenyddiaeth

Mae’r arolwg barn Cymreig diweddaraf yn gosod Plaid Cymru ar y blaen i Reform o ran bwriadau pleidleisio yn etholiad y Senedd. Ond trwch blewyn sydd rhwng y ddwy blaid, ac mae’n gwbl ddichonadwy y gallai Reform ddod i’r brig fis Mai nesaf gan ennill yr hawl i lywodraethu Cymru.

‘Daeargryn tawel’ – dyna, fe gofiwch, oedd y trosiad a ddefnyddiodd Dafydd Wigley mewn gwahanol gyfweliadau wrth geisio crisialu arwyddocâd canlyniad yr etholiad datganoledig cyntaf yn ôl yn 1999. Gwnaed defnydd llawn o’i huodledd gan y rhai hynny yn ein plith a fu’n ysgrifennu am yr etholiad hwnnw’n ddiweddarach. Yn wir, prin fod unrhyw ymdriniaeth academaidd ag etholiad 1999 nad yw’n defnyddio’r ymadrodd ‘daeargryn tawel’ i gyfleu’r modd yr esgorodd ymgyrch etholiadol ymddangosiadol ddigyffro ar ganlyniad a oedd ar y pryd mor ysgytwol o annisgwyl.

Cawn weld pa sylw bachog – a chan bwy – fydd yn llwyddo orau i grisialu canlyniad yr etholiad datganoledig nesaf sydd i’w gynnal ar 7 Mai 2026. Serch hynny, mae eisoes yn amlwg fod yr her a wynebodd Alun Michael yn 1999 megis dim o gymharu â’r her sydd bellach yn wynebu Eluned Morgan. Bryd hynny torrwyd crib Llafur. Erbyn hyn, nid gormodiaith yw dweud bod y blaid sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth Cymru gyhyd yn wynebu mynd i ebargofiant.

Yn ôl amcangyfrif y prif arbenigwr ar etholiadau yng Nghymru, fy nghyd‑weithiwr Jac Larner, os yw darogan arolwg barn diweddaraf ITV Cymru a Chanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn profi’n gywir, dim ond 11 aelod Llafur sy’n debyg o ennill eu lle yn y Senedd nesaf – a hynny er bod y Senedd ar fin ehangu i gynnwys 96 aelod. Yn wir, mae yna bosibilrwydd real y gallai Llafur wneud hyd yn oed yn waeth.

Llusgo byw yn unig y mae llywodraeth Eluned Morgan erbyn hyn. Mae rhywun yn synhwyro y byddai cynnal yr etholiad yfory nesaf yn rhyddhad i bawb sy’n rhan ohoni. Draw yn Llundain wedyn mae Keir Starmer yn cadarnhau tybiaeth sawl un ohonom oedd yn credu o’r cychwyn cyntaf na fyddai ef a’i lywodraeth yn abl i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r wladwriaeth. Cwta flwyddyn ers ei fuddugoliaeth fawr ac mae hyd yn oed aelodau ffyddlonaf y Blaid Lafur wedi anobeithio yn ei harweinydd. Ie’n wir, peth hawdd iawn yw dychmygu cefnogaeth y blaid yn plymio hyd yn oed yn is erbyn y gwanwyn.

Nid oes angen dawn proffwyd i ddarogan gwae i Lafur fis Mai nesaf felly. Mater llawer anos, fodd bynnag, yw rhagweld pwy fydd yn ennill yr etholiad hwnnw – gydag ‘ennill’ yn y cyd‑destun hwn yn golygu sicrhau’r nifer mwyaf o seddau. Anos fyth wedyn yw darogan pwy fydd yn ffurfio’r llywodraeth Gymreig nesaf. Ar hyn o bryd, o leiaf, rwy’n tybio mai Plaid Cymru yw’r ffefryn i gyflawni’r ddeubeth, ond hynny o drwch asgell gwybedyn yn unig. Rhaid wynebu’r ffaith fod gwir bosibilrwydd mai Reform fydd y blaid fwyaf ac y bydd yn ennill, gan hynny, yr hawl i geisio ffurfio’r llywodraeth Gymreig nesaf.

Bwriadau Pleidleisio Etholiad Senedd Cymru, Medi 2025

  %

(Newid ers Ebrill 2025)

ASau (Darogan)
Plaid Cymru 30 (=) 38
Reform UK 29 (+4) 37
Llafur 14 (‑4) 11
Ceidwadwyr 11 (‑2) 6
DemRhydd 6 (‑1) 3
Gwyrddion 6 (+1) 1
Eraill 4 (+2) ‑‑

Ffynhonnell: Arolwg Barn ITV Cymru/Prifysgol Caerdydd, 4‑10 Medi 2025

Cyfyd gobaith Reform yn rhannol o’r brwdfrydedd y mae wedi ei ennyn ymysg ei chefnogwyr – gan gynnwys yn y wasg Seisnig adain dde – a’r momentwm sy’n ganlyniad i hynny. Gallai momentwm o’r fath fod yn ddigon i sicrhau mai Reform ac nid Plaid Cymru fydd â’i thrwyn ar y blaen erbyn cynnal arolwg nesaf ITV/Prifysgol Caerdydd ymhen ychydig fisoedd. Cawn weld.

Ar wahân i’r sylw di‑baid a gaiff plaid Nigel Farage yn y cyfryngau, mantais fawr arall Reform yw effaith y gyfundrefn bleidleisio newydd ar y bleidlais wrth‑Reform. Mae dau beth i’w gofio yn y cyd‑destun hwn. Yn gyntaf, a siarad yn fras mae etholwyr Cymru wedi eu rhannu’n ddwy garfan neu floc etholiadol. Ar y naill law ceir cefnogwyr y pleidiau adain dde, Reform a’r Torïaid. Ar y llaw arall, ceir cefnogwyr y pleidiau mwy blaengar: Plaid Cymru, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion. Tra mae pleidleiswyr yn ei chael hi’n gymharol hawdd ffeirio eu pleidlais o blaid i blaid oddi mewn i’w bloc eu hunain, dim ond ychydig iawn ohonynt sy’n fodlon croesi’r hollt o floc i floc.

Yn y cyd‑destun hwn mae’n gryn fantais i Reform fod pleidleiswyr y bloc sy’n wrthwynebus iddynt wedi’u rhannu rhwng cymaint o bleidiau gwahanol (ac mae’n parhau’n bosibilrwydd y gwelwn eni plaid adain chwith newydd i ymuno â’r bloc mwy blaengar). Noder – a dyma’r ail bwynt perthnasol i’w gofio – fod y trothwy ar gyfer ennill sedd yn un o’r 16 o etholaethau datganoledig yn uchel. Rhaid wrth 12.5% o’r bleidlais. Mae hyn yn golygu yn ei dro y bydd y rhan fwyaf o’r pleidleisiau a gaiff y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion – a nifer cynyddol fawr o bleidleisiau’r Blaid Lafur hefyd – yn bleidleisiau ‘gwastraff’. Hynny yw, byddant yn bleidleisiau na fyddant yn esgor ar unrhyw Aelodau Seneddol i’r pleidiau a dderbyniodd y pleidleisiau hynny.

Wrth gwrs, gwaith Plaid Cymru rhwng rŵan a mis Mai nesaf fydd ceisio darbwyllo cefnogwyr y pleidiau blaengar eraill sy’n trigo yn y seddau hynny sy’n anobeithiol o safbwynt rhagolygon eu pleidiau eu hunain mai canlyniad gwastraffu eu pleidleisiau fydd cryfhau braich Reform. Eto i gyd, nid hawdd fydd gwneud hynny yng nghyd‑destun cyfundrefn bleidleisio newydd ac anghyfarwydd.

Mae’n bosibl felly y gall Reform gyrraedd y brig a hynny’n groes i ddymuniad mwyafrif etholwyr Cymru. Os digwydd hynny yna beth wedyn? Hyd yma, rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom wedi tybio mai rhyw fath o glymblaid rhwng Plaid Cymru a Llafur sydd fwyaf tebygol. Bellach, fodd bynnag, rwyf lawer iawn yn fwy amheus o hynny. Oni bai fod Llafur yn profi atgyfodiad megis Lasarus gynt rhwng rŵan a mis Mai nesaf, mae’n anodd dychmygu y bydd y blaid honno mewn cyflwr i wneud dim wedi’r etholiad ac eithrio llyfu ei chlwyfau ei hun. Yn sicr, fe fyddai’n anodd, os nad amhosibl, i Lafur fod yn rhan o glymblaid ffurfiol ar ôl derbyn ffasiwn grasfa. Rwyf ymhell o fod yn sicr y byddai hyd yn oed yn abl i ymrwymo i drefniant llywodraethol llai ffurfiol – am gyfnod, o leiaf.

Ar y pwynt yna, licio hynny neu beidio, byddai Reform wedi ennill yr hawl ddemocrataidd i geisio ffurfio llywodraeth. Mae cryn eironi yn hyn o beth gan fy mod yn grediniol y byddai’n llawer iawn gwell gan Nigel Farage osgoi sefyllfa lle y mae ei blaid yn gorfod cymryd cyfrifoldeb am gyflwr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru dair blynedd cyn etholiad cyffredinol Prydeinig. Ac yn wir, mae bob math o beryglon yn codi i Reform o wneud yn rhy dda yn ein hetholiad cenedlaethol Cymreig nesaf. Mae’n bosibl iawn, yn wir, y byddai Rhun ap Iorwerth yn etifeddu’r goron maes o law beth bynnag, a hynny am y gallai gwleidyddion cwbl ddibrofiad Reform fod yn llwyr analluog i gynnal llywodraeth. Eto, go brin y byddai amgylchiadau o’r fath yn gwneud llawer o les i hygrededd y llywodraeth gyntaf erioed i gael ei harwain gan Blaid Cymru.

Felly dyma air i gall. Peidied neb â’i dwyllo ei hunan: mae yna bosibilrwydd go iawn mai Reform fydd y blaid fwyaf yn Senedd Cymru ar ôl etholiad mis Mai nesaf ac mai hi fydd yn ffurfio ein llywodraeth genedlaethol nesaf. Os ydych chi’n un o’r rheini sydd am osgoi ffawd o’r fath, yna mae gennych waith i’w wneud…

 

Richard Wyn Jones

RHANNWCH