Bu ymweliad â phrif ŵyl cerddoriaeth glasurol Prydain yn ddiweddar yn fodd i atgoffa ein gohebydd am y prinder llwyfan i gerddoriaeth o’r fath yng Nghymru.
Wrth baratoi hyn o lith am gyngherddau haf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC daeth y newyddion da am arwyddo cytundeb rhwng Cyngor Sir Caerdydd a’r Academy Music Group i sicrhau dyfodol Neuadd Dewi Sant. Bu’r Neuadd ar gau ers dwy flynedd, wedi i goncrit RAAC gael ei ddarganfod yn rhai o baneli’r nenfwd, sef dewis tsiêp y Cyngor ei hun yn ôl yn 1980 er gwaetha’r rhybudd ar y pryd am fyrhoedledd y deunydd. Ond y gobaith yn awr yw y bydd y Neuadd yn ailagor ym Mehefin 2027 er mwyn cynnal cystadleuaeth nesaf Canwr y Byd Caerdydd y BBC. Gyda’r gwaith atgyweirio, sy’n cynnwys adeiladu to newydd, yn debyg o gychwyn yn Ionawr 2026, dim ond deunaw mis fydd ganddynt i gael y lle’n barod. Eisoes mae rhai ar Gyngor y Ddinas wedi bod yn holi a yw hynny’n ddigon o amser, ond amser a ddengys.
Mae effaith cau neuadd o’r fath yn andwyol dros ben ar sawl cyfrif i iechyd cerddoriaeth yn y brifddinas a thu hwnt – dyma, wedi’r cyfan, ein Neuadd Gyngerdd Genedlaethol. Does dim dwywaith fod Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi’i chyfyngu’n arw o golli ei llwyfan perffaith. Mae bod yn stiwdio Neuadd Hoddinott y BBC yn barhaol pan nad ydynt yn teithio yn rhwym o arwain at deimlad o glawstroffobia. Er bod y stiwdio’n lle delfrydol i ymarfer a recordio, mae’n rhy fach o lawer i fod yn neuadd gyngerdd effeithiol – rwy’n dioddef o ben tost ar ôl pob ymweliad! Rhaid i gerddorfa o ryw 80 aelod gael profiad rheolaidd o ehangder neuadd fawr er mwyn datblygu ei sain a gallu ‘anadlu’ yn gerddorol.
Felly, gan nad oedd unrhyw gyngherddau gan y Gerddorfa yng Nghymru, rhaid oedd mynd i Lundain ym mis Awst i brofi ambell un ganddynt yn Neuadd Frenhinol Albert fel rhan o Broms y BBC. Rwy’n cofio gwrando ar Gerddorfa Gymreig y BBC (fel y’i gelwid yn syml ar y pryd) yn perfformio am y tro cyntaf yn y Proms a hynny ar y radio ar 25 Awst 1971. Nid oedd yn gyffredin i gerddorfeydd ‘rhanbarthol’ y BBC dderbyn gwahoddiad o’r fath bryd hynny a bu sylw mawr i’r achlysur yma yng Nghymru. Erbyn hyn mae’r Gerddorfa yn cynnal o leiaf pedwar cyngerdd yn flynyddol yn yr ŵyl, ond prin iawn bellach yw’r sylw Cymreig i hynny. Eleni, yr atyniad mawr oedd perfformiad o Drydedd Symffoni anferth Gustav Mahler a gyfansoddwyd rhwng 1893 ac 1896, er na chafodd ei pherfformio tan 1902. Mae’r gwaith yn noson gyfan ynddo’i hun ac yn galw am adnoddau anferthol. Yn rhannu’r llwyfan gyda’r Cymry roedd aelodau o Orchestre National de Bretagne – ymddangosiad cyntaf y Llydawyr yn y Proms.
Gydag aelodau soprano ac alto Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yno hefyd yn ogystal â dau gôr plant o Birmingham, roedd hwn yn ddigwyddiad neilltuol a haeddai sylw. Roedd yr unawdydd mezzo‑soprano Beth Taylor yn un o sêr Canwr y Byd 2023 pan fu’n cynrychioli’r Alban. Mae angen neuadd deilwng i lwyfannu’r gorchestwaith chwe symudiad hwn – ac mae Neuadd Albert (a agorwyd yn 1871) yn berffaith ar ei gyfer. Fe ddwedodd Mahler y dylai symffoni ‘fod fel y byd’ gan ‘gofleidio popeth’, a dyma un o’r rhai hiraf a mwyaf uchelgeisiol a gyfansoddwyd erioed. Edrycha ar y byd o bersbectif ‘Blodau’r Maes’; ‘Anifeiliaid y Goedwig’; Y Ddynoliaeth (i eiriau Nietzsche ‘Cân Canol Nos’); Yr Angylion (geiriau o’r casgliad gwerin Des Knaben Wunderhorn) gan gyrraedd uchafbwynt pan gyplysa bŵer Cariad a Chrefydd erbyn y diwedd. Dechrau’r daith, o leiaf gan munud ynghynt, yw ‘Deffro’r Duw Pan – yr Haf yn Rhodio i Mewn’. Dyma agoriad bythgofiadwy ar y cyrn – cododd y gwallt ar fy mhen yn syth wrth glywed y sain gogoneddus yn atseinio’n sydyn o bob cornel yn y neuadd ac yn cyffroi’r synhwyrau mewn modd nad yw ond yn bosib mewn perfformiad byw yn y cnawd.
Mae prif arweinydd y Gerddorfa – Ryan Bancroft, trwmpedwr yn wreiddiol, o America – yn fach o gorff ond yn fawr ei argraff. Llwyddodd i lywio’r cannoedd o gerddorion o’i flaen i gyfleu holl ogoniant y symffoni gan dynnu seiniau syfrdanol yn aml. Roedd yn destun balchder eithriadol fod gennym, yng Nghymru, adnoddau cerddorfaol i gystadlu gyda’r gorau yn y byd, rhywbeth a nodwyd gan y beirniaid i gyd yn dilyn y noson. Ond mae’n hynod o drist nad oes cyfle i unrhyw gynulleidfa yng Nghymru ei hun, ar hyn o bryd, glywed y fath orchest arwrol. Ar ddiwedd buddugoliaethus y cyfanwaith cododd y 5,000 yn Neuadd Albert i floeddio eu cymeradwyaeth.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol y Barri yn 1968 perfformiwyd Ail Symffoni Mahler (‘Yr Atgyfodiad’) gyda Chôr yr Eisteddfod yn cymryd rhan o dan faton Charles Groves. Fel rhan o Brom arall yn Llundain eleni fe gyflwynodd y Gerddorfa Gymreig waith gan William Mathias, yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn yr ŵyl – ei Agorawd Dawns – darn yn llawn asbri ac afiaith a gomisiynwyd, yn eironig ddigon, ar gyfer ei berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962 gan Gerddorfa Philharmonig Llundain. Dyma dro diddorol ar fyd – dim lle erbyn heddiw yn yr Eisteddfod i waith ar raddfa Symffonïau 2 neu 3 gan Mahler, nac ychwaith i ddarnau cerddorfaol gan gyfansoddwyr cyfoes Cymreig. Cafodd y Mathias dderbyniad gwresog yn Llundain, gyda Marwnad i Linynnau Grace Williams yn cael ei gwerthfawrogi hefyd.
Gwnaeth yr athrylith cerddorol o Bentrebychan, Llŷr Williams, yn iawn felly – ac yntau yn ei filltir sgwâr – i gondemnio’r Eisteddfod sydd ohoni am wrthod llwyfan y Pafiliwn i unrhyw gerddorfa glasurol – boed yn Gerddorfa Ieuenctid Cymru, Cerddorfa’r BBC neu Gerddorfa’r cwmni opera cenedlaethol, heb sôn am gôr teilwng i ganu gyda hwy. Soniodd am y profiad gwefreiddiol a gafodd yn llanc o glywed Requiem Verdi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1991, gan resynu na fyddai cyfle o’r fath ym mhrifwyl eleni i gerddor ifanc ar ei brifiant brofi’r fath wledd. Mae’r gwirionedd hwn hefyd, fel y dywedodd, yn adlewyrchu’r trai difrifol o ran addysg gerddorol yn ein gwlad, gyda’r naill argyfwng yn bwydo’r llall. Rhaid derbyn, yn anffodus, fod cerddoriaeth ‘glasurol’ yn cael ei chyfyngu yn awr i gystadlaethau ac ambell gornel ymylol o’r Maes. Fe ddylai Llŷr ei hun fod wedi cael noson gyfan yn y Pafiliwn fel unawdydd rhyngwladol yn hytrach nag orig brynhawn mewn stiwdio fechan a nifer, gan gynnwys plant, yn methu mwynhau mynediad. Ond dyna ni, ‘Pop yw Popeth’ bellach, ac mae hynny’n warth arnom fel cenedl honedig ddiwylliedig.
Geraint Lewis