Cartref digidol diwylliant Cymru.

The Gentle Good – Elan (Ffilm Ddogfen)

Cerddoriaeth

Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, albwm newydd y canwr gyfansoddwr The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria. Mae Elan yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio diwylliant, gwleidyddiaeth a hunaniaeth Gymreig trwy hanes a llên gwerin y cwm, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Firmingham ar ddiwedd oes Fictoria.

Yn ystod haf a hydref 2024 dychwelodd Gareth i’r cwm i saethu’r ffilm fer hon am greu’r albwm a’r dirwedd a’r bobl a’i hysbrydolodd.

Cerddoriaeth gan Gareth Bonello
Ffilm gan On Par Productions
Saethwyd a golygwyd gan Ren Faulkner
Recordiwyd a chymysgwyd LP Elan gan Frank Naughton, Tŷ Drwg Studios, Grangetown
Mastro gan Sion Orgon Digitalflesh Audio Mastering

Ers rhyddhau, mae ‘Elan’ wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Cymru, a ddisgwylir ei chyhoeddi ar 6 Hydref. Gallwch brynu’r albwm yma, neu wrando ar-lein yma.
Dyddiadau fyw yng Nghymru blwyddyn yma…
Hydref 3ydd – Tabernacl, Tyddewi
Hydref 4ydd – Bluestone Taproom, Cilgwyn
Hydref 8fed – Le Pub, Casnewydd (band llawn)
Hydref 11eg – Clwb y Bont, Pontypridd
Hydref 18fed – Gŵyl Sŵn, Caerdydd (Band llawn)
Hydref 24-26 – Gŵyl Boia, Tyddewi, Sir Benfro (band llawn)
Tachwedd 7fed – Aberteifi (band llawn)
Tachwedd 15fed – Cwrw, Caerfyrddin (band llawn)
Tachwedd 21ain – Caffi Dau Ful, Rhuthun
Tachwedd 22ain – Galeri, Caernarfon (band llawn)

RHANNWCH