Ar ôl cipio mwyafrif anferthol yn yr Etholiad Cyffredinol flwyddyn yn ôl, mae llywodraeth Keir Starmer mewn dyfroedd dyfnion. A da o beth, ym marn ein colofnydd, fyddai i Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru graffu ar y camgymeriadau a barodd i hyn ddigwydd.
Yr wyf yn ysgrifennu hyn o eiriau ychydig ddyddiau’n unig cyn cofnodi pen‑blwydd cyntaf yr etholiad cyffredinol rhyfeddol hwnnw a orseddodd Syr Keir Starmer yn 10 Stryd Downing. Erbyn i rifyn yr haf o Barn eich cyrraedd, dichon y byddwch wedi cael eich gwala o erthyglau ac adroddiadau – a hyd yn oed bodlediadau sy’n cynnwys eich colofnydd – yn ceisio pwyso a mesur ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw! Nid oes angen dawn proffwyd i ragweld y bydd cywair y rheini wedi bod yn negyddol. Do, bu’n flwyddyn siomedig.
Wrth reswm, fe fyddai’r wasg Geidwadol Seisnig yn clochdar hynny doed a ddelo. Yn gyson â dymuniadau, ac yn wir gorchmynion y perchnogion, mae hon yn ystyried mai ei phriod waith ydi swcro arweinwyr Ceidwadol, waeth pa mor anobeithiol y bônt. Cameron, May, Johnson, Truss a Sunak – ie, dyma’r mawrion y ffolwyd arnynt yn eu tro dros y blynyddoedd diwethaf gan giwed newyddiadurwyr y wasg hon. Ochr arall y geiniog yw eu bod yn ystyried bod pob Prif Weinidog Llafur – yn wir, pob gwleidydd sy’n perthyn i’r blaid honno – yn ddiffygiol. Felly, hyd yn oed petai Starmer yn ymgorffori rhinweddau gorau David Lloyd George, Franklin D Roosevelt a Nelson Mandela, dyweder, ni fyddai hynny’n ddigon. Nid oes byth fodd i unrhyw Lafurwr blesio’r rhain.
Ond y gwir amdani yw nad y rhai sy’n cael eu talu i fod yn ddig tuag at lywodraeth Lafur sydd wedi eu siomi fwyaf ganddi. Yn hytrach, mae’r dadrithiad amlycaf i’w weld ymysg y rheini oedd wedi gobeithio y byddai ethol Starmer yn arwain at bennod newydd ar ôl cyfnod hirfaith o gamlywodraethu Ceidwadol. Ysywaeth, yr hyn a gafwyd fu estyniad o lanast y pedair blynedd ar ddeg blaenorol. Pa ryfedd, felly, fod cymaint o’r rheini fu’n dyheu am newid bellach mor anfodlon? Mae’n ffaith drawiadol fod yr arolygon barn a gynhaliwyd i nodi ei flwyddyn gyntaf yn ei barchus, arswydus swydd yn awgrymu bod lefelau poblogrwydd personol Starmer wedi plymio i’r un dyfnderoedd tywyll ag y plymiodd rhai ei ragflaenwyr iddynt. Dyna i chi gamp.
Y cwestiwn mawr, wrth gwrs, yw pam mae pethau wedi troi mor chwerw mor gyflym i’r Prif Weinidog? Wedi’r cyfan, nid yw Keir Starmer yn ddyn heb allu. Mae ganddo fwy o brofiad llwyddiannus yn rhedeg sefydliad mawr cymhleth nag unrhyw un o’i ragflaenwyr ers tro byd, a hynny yn sgil ei gyfnod fel Pennaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn wahanol i Johnson, mae o’n weithiwr diwyd; yn wahanol i Truss, does dim chwinc amlwg yn ei bersonoliaeth. Ar ben hynny, mae ganddo fwyafrif seneddol enfawr – sy’n wahanol iawn i brofiad May wrth gwrs. Siawns, felly, nad oedd hi’n argoeli’n well na hyn.
A bod yn deg, rhaid cydnabod bod Starmer wedi bod yn anffodus. Nid ei fai ef yw’r ffaith fod etholwyr yr Unol Daleithiau wedi ailethol Donald Trump yn Arlywydd yn fuan ar ôl iddo ef gael ei ddyrchafu’n Brif Weinidog. Mae anwadalwch Trump wedi gwneud niwed difrifol i’r economi ryngwladol gan wanhau ymhellach fyth y rhagolygon economaidd ar gyfer y wladwriaeth hon. Mae ei awydd i swcro Rwsia ar draul Wcráin wedi creu ansicrwydd ac ansefydlogrwydd ymysg cynghreiriaid agosaf y Deyrnas Unedig gan orfodi ailfeddwl sylfaenol o ran polisïau – a chynlluniau gwariant – amddiffyn. Ar ben hynny, mae cefnogaeth agored y Tŷ Gwyn i’r hil‑laddiad yn Gaza, ymddygiad bwystfilaidd Israel yn Libanus, heb sôn am yr ymosodiad ar Iran, wedi tanlinellu mai’r unig special relationship sy’n cyfrif i Trump ydi honno rhyngddo ef a Netanyahu. Go brin fod Prydain erioed wedi ymddangos mor amherthnasol ar y llwyfan rhyngwladol.
Wedi dweud hynny, mae Starmer yn ddiau hefyd yn gyfrifol am danseilio’i sefyllfa ei hun. Un person a ddylai fod yn ceisio dysgu oddi wrth y camgymeriadau hyn ydi Rhun ap Iorwerth, gŵr a allai’n hawdd ei ganfod ei hun yn cymryd yr awenau fel Prif Weinidog Cymru mewn cwta flwyddyn. Beth, felly, yw’r gwersi y dylai Rhun a Phlaid Cymru eu dysgu o fethiannau Starmer a Llafur? Fe fydd gan bob darllenydd ei syniadau ei hun ynglŷn â hyn, wrth gwrs, ond dyma fy ngheiniogwerth i.
Hyd y gwelaf, roedd Starmer wedi gwneud un o’i gamgymeriadau mwyaf cyn i’r etholiad gael ei gynnal o gwbl. Wrth addo na fyddai treth incwm yn codi, fe greodd Llafur gur pen aruthrol iddynt eu hunain ar ôl i’r fuddugoliaeth gael ei sicrhau, a hynny’n gwbl ddiangen. Byddai’r blaid wedi ennill yr etholiad yn hawdd, doed a ddelo. Ond oherwydd eu bod wedi addo rhywbeth mor ffôl cyn etifeddu sefyllfa gyllidebol mor enbyd, mae Llafur wedi gorfod ceisio codi arian mewn ffyrdd sy’n niweidiol iawn i’r economi (fel cynyddu’r ‘dreth ar swyddi’) a gwneud toriadau i’r system les er mwyn ceisio arbed arian. Yn y pen draw, fe brofodd yr ail yn ormod i Aelodau Seneddol a chefnogwyr y blaid, ac ymddangosai Starmer yn ddi‑glem o ganlyniad. Y wers gyntaf, felly, yw bod yn ofalus iawn beth sy’n cael ei addo i’r etholwyr.
Tybed nad ail gamgymeriad mawr Starmer oedd llenwi ei gabinet â theyrngarwyr – hynny yw, pobl ar adain dde ei blaid – yn hytrach na dethol y mwyaf galluog o blith ei gyd‑aelodau i fod yn rhan o’i lywodraeth? Heb ddymuno bod yn angharedig, byddai’n anodd dadlau bod Rachel Reeves, Liz Kendall neu Bridget Phillipson ymysg goreuon y blaid seneddol, eto hwy sy’n dal rhai o’r swyddi mwyaf allweddol yn y llywodraeth.
Wrth gwrs, nid yw Starmer yn unigryw yn dyrchafu’r teyrngar ar draul y talentog. Ystyriwch lywodraeth Eluned Morgan yma yng Nghymru, neu lywodraethau Johnson a Truss ac enwi dim ond rhai. Eto, fe fu cyfnod pan oedd Prif Weinidogion Llafur megis Harold Wilson a Jim Callaghan yn ofalus i geisio cynnwys goreuon eu plaid yn eu llywodraethau, gan ystyried yr amrywiaeth syniadaethol a ddeilliai o hynny’n beth gwerthfawr. Yn sicr, mae’n anodd credu y byddai Llafur wedi gwneud y ffasiwn lanast o ddiwygio’r gyfundrefn les petai mwy o leisiau amgen o gylch bwrdd y cabinet. Y wers yma, felly, yw bod arweinwyr doeth yn ofalus i gynnwys amrywiaeth o leisiau o’u plaid yn eu llywodraethau, a hynny hyd yn oed os ydynt yn gallu bod yn drafferthus – gallu nid gweniaith, dyna sy’n cyfrif.
Yn olaf, ac yn fwyaf sylfaenol oll, daeth yn gynyddol amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf nad oes gan lywodraeth Starmer nod amgen y tu hwnt i geisio bod ychydig yn fwy effeithlon a threfnus na’i rhagflaenwyr, ac nad yw hynny’n ddigon o sail ar gyfer llywodraethu. Fel y nodwyd eisoes, roedd y dyhead am well trefn ar ôl yr anhrefn a nodweddodd gyfres o lywodraethau Torïaidd yn un o’r pethau a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Lafur. Ond heb syniad eglur o’r math o gymdeithas y mae’r llywodraeth am ei meithrin, mae wedi profi’n amhosibl sicrhau fod y myrdd o benderfyniadau mawr a mân y mae unrhyw lywodraeth yn gyfrifol amdanynt yn tynnu i’r un cyfeiriad. Gellir, fe ellir ennill etholiadau trwy ymgyrchu yn erbyn rhywbeth neu rywrai, ond mae’n rhaid i lywodraeth fod o blaid rhywbeth os yw am obeithio cyflawni. A defnyddio ieithwedd yr oes, mae llywodraeth angen prosiect.
Nid oes gan lywodraeth Starmer brosiect, nac ychwaith lywodraeth Eluned Morgan. Methiant i ddiffinio prosiect newydd, ar ôl i’w hymdrechion i sicrhau ail refferendwm ar annibyniaeth fynd i’r gwellt, sydd wedi arwain yr SNP i’w merddwr presennol yn yr Alban. Tybed a all Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru ddysgu o’r enghreifftiau hyn a diffinio prosiect addas ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru?
Richard Wyn Jones