Sut brofiad oedd ac yw byw yn ardal Wrecsam? Gofynnodd BARN i dri amrywiol eu cefndi-roedd geisio diffinio beth mae Wrecsam yn ei olygu iddynt hwy.
Y gymuned o ’nghwmpas i ydi’r peth pwysicaf am Wrecsam i fi. Fe wnes i golli dad ar ddi-wedd cyfnod Covid, ac mae’r ffordd wnaeth y gymuned ddod ynghyd i ddathlu ei fywyd o yn rhywbeth mor bwerus sy’n cadarnhau pa mor lwcus ydw i o fod yn byw mewn man lle mae’r ysbryd cymunedol mor gryf. Dwi’n cofio fel y gwnaeth pawb ar ein stryd ni ddod allan o’u tai i ffarwelio efo fo. A dwi wedi gweld yr ysbryd yma droeon.
Fe wnes i dyfu i fyny yn Stryd Gerallt yn ardal Rhos ddu (heb fod yn bell o’r Orsaf Drenau a’r Cae Ras) efo dad yn Gymro Cymraeg a mam yn Saesnes o Lerpwl. Felly, dwi wedi cael fy magu mewn tŷ lle oedd y Saesneg yn eitha cry’, a lle oedd y Gymraeg yn gry’ hefyd! A dau ddrws i ffwrdd, roedd tŷ taid (yn wreiddiol o Gerrig y drudion) a nain (un o Glawddnewydd). Cul de sac ydi Stryd Gerallt sy’n llawn o’r tai brics coch yna sy mor nodweddiadol o Wrecsam. Mae yma bobol o lawer o wledydd a chefndiroedd gwahanol a phawb yn cyd dynnu’n ddi lol efo’i gilydd am ein bod ni’n byw yn yr un ardal. Ac mae diddordeb yn y Gymraeg yma. Dros y ffordd i ni mae Ray a Colin yn byw ac mae Ray yn aelod o glwb Clebran ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn Nhafarn y Saith Seren; cymdogion i ni ydi Gaynor (chwaer Ray) a Nic, ac mae Gaynor hefyd wrthi’n dysgu Cymraeg.
Dros y flwyddyn ddwetha, dwi wedi bod yn rhannu f’amser rhwng Bangor (lle dwi’n astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth) a Wrecsam. Dwi’n chwarae’n lled broffesiynol i dîm pêl droed merched Wrecsam. Fe wnes i wneud tri thymor yn Everton. Ond roedd hynny’n broblematig am ein bod ni fel teulu yn gefnogwyr Lerpwl! Mae enw dad yno ar un o’r brics yn y Cae Ras sy’n nodi enw’r bobol ddaru gyfrannu arian i gadw clwb Wrecsam yn fyw yn y cyfnod tywyll. Ac mae tocyn tymor gen i ers o’n i’n tua chwech oed.
Yng nghae’r Graig yng Nghefn mawr (cae Derwyddon Cefn) y byddwn ni’r merched yn chwarae fel arfer. Ond mae rhai gemau pwysig yn cael eu chwarae ar y Cae Ras. Ym Mawrth 2023, fe wnaethon ni chwarae o flaen 9,500 o bobol yn erbyn Cei Connah i ennill dyrchafiad i’r Adran Premier. Roedd cerdded allan a gweld nad oedd yna sêt wag ar ôl yn rhywbeth wna i byth ei anghofio. Ac wedyn mae yna ambell i gôl. Fel chwaraewraig ganol cae amddiffynnol, does yna ddim llond trol ohonyn nhw. Ond mae nhw’n dueddol o ddod o’r tu allan i’r bocs, ac fe ddaeth yna un bron o’r llinell hanner. Roedd honno yn nhymor 2023/4 yn erbyn Abertawe, a dim ond yr ail dro i mi chwarae ar y Cae Ras. Roedd y gôl geidwad oddi ar ei llinell, ac fe wnes i weld y bwlch yma. O’n i’n gwybod yn syth ar ôl iddi hi adael ’y nhroed i fod y bêl am daro cefn y rhwyd. Ac yn gwbwl reddfol, be wnes i wedyn ond rhedeg i ddathlu at lle oedd dad a fi yn arfer eistedd. Mae pobol yn gofyn weithiau sut brofiad ydi sgorio gôl fel yna. Does yna ddim ond un ateb – trydanol!
Lili Mai Jones