Dyma blant YSGOL Foel Gron Mynytho, yn dysgu o ble mae tanwydd ffosil yn dod.
Fel rhan o weithdai hinsawdd GwyrddNi, cymerodd y plant ran hefyd mewn cwis hinsawdd a natur, creon nhw waith celf yn dangos y dyfodol yr hoffen nhw fyw ynddo, a daethant i ddysgu mwy am beth ydi effaith tŷ gwydr.
Nesaf, gweithiodd y plant gyda’i gilydd i benderfynu beth yr hoffen nhw ei wneud – fel ysgol – i wneud eu rhan tuag at daclo newid hinsawdd. Dros y misoedd nesaf, bydd GwyrddNi yn gweithio gyda nhw i ddod a’u syniadau yn fyw!
Byddwn hefyd yn partneru gyda Congl Meinciau, Ffiws a Phrosiect Morwellt i gyflwyno gweithdai ar 🌿morwellt🌿 i’r plant mis yma.. mwy i ddod!