Un o 8 amcan trosfwaol Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Peris a gynhyrchwyd gan drigolion y fro yn 2023 oedd;
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.
Dyma Lowri, Hwylusydd Dyffryn Peris, yn sôn am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn yma i geisio dod â’r weledigaeth yma yn fyw.
Lowri:
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.” – dyna chi lond ceg!
Her uchelgeisiol ac angenrheidiol i sicrhau ffyniant y fro hynod hon yng ngwyneb heriau lluosog, yn lleol a rhyngwladol. Mae ‘na beth wmbrath o waith gwych yn mynd rhagddo gan wirfoddolwyr a gweithwyr brwd, ac ychwanegu gwerth i hynny fu y nôd.
Ym mis Ionawr eleni, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Sefydliad Coffa Arwyr, Llanrug er mwyn dal y syniad yma i fyny i’r golau. Gwahoddwyd y cynghorau cymuned lleol, grwpiau a mudiadau di-elw ac unrhyw un arall gyda diddordeb. Roedd y caffi yn orlawn!
Clywsom am flaenoriaethau’r gymuned a gasglwyd gan Gyngor Gwynedd yn eu hymgynghoriad Ardal Ni 2035. Datblygu Llwybrau, Gwella Edrychiad, Tai addas, Trafnidiaeth gyhoeddus, Cefnogi Busnesau, Twristiaeth Cynaliadwy, Cynlluniau i bobl ifanc, Gweithgareddau Cymraeg, Gwella cydweithio, Sgiliau cymunedol.
Clywsom hefyd am amcanion GwyrddNi ac am rwydwaith newydd sy’n hybu perchnogaeth a hunan-benderfyniad cymunedol yng Ngwynedd; Cymunedoli Cyf.
Roedd cyflwyniad i waith Antur Stiniog dros y 15 mlynedd diwethaf yn ysbrydoledig. Mae nhw wedi troi heriau gor-dwrisitaeth ar ei ben a chreu incwm ohonno sydd wedi hadu nifer o brosiectau cymunedol eraill. Bachodd y syniad o greu mudiad ‘ymbarel’ fel Cwmni Bro Ffestiniog i gefnogi a chysylltu mudiadau parod a gallu creu prosiectau newydd yn nychymyg y rhai fu’n bresennol.
Erbyn diwedd y cyfarfod, roedd syniadau o ffrydiau incwm a phrosiectau newydd wedi eu cofnodi, opsiynnau cyllido wedi eu hadnabod, gofod swyddfa posib ar gael a chynigion i hybu’r syniad trwy’r Papur Bro lleol, Eco’r Wyddfa.
Datblygu cynlluniau
Dros y 7 cyfarfod dilynnol eleni, mae nifer o opsiynau wedi eu harchwilio, grŵp llywio wedi ei sefydlu, Cynllun Busnes wedi ei ddatblygu, Swydd Ddisgrifiad ar gyfer Rheolwr Datblygu wedi ei ysgrifennu a threfniadau cyllido’r swydd honno trwy nawdd Cynghorau Cymuned Llanberis a Nant a Llanrug a Cwm-y-Glo a Chwmni Ynni Padarn Peris yn cael eu mireinio.
£8000! Diolch i gyllido gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU a Grymuso Gwynedd, llogwyd gofod cydweithio yn Caban, Brynrefail am gyfnod o 6 mis. Rhoddodd hyn i’r gwaith o ddatblygu Partneriaeth Dyffryn Peris ofod swyddfa, ystafell gyfarfod, sgyrsiau achlysurol dros goffi a chyfle i gynnal digwyddiadau Cymraeg a denu gwirfoddolwyr.
Bu i’r grofna hon hefyd dalu am wasanaeth ymgynghorol gan arbenigwr Datblygu Cymunedol – Meleri Davies. Roedd dysgu o’i phrofiad hi o ddatblygu Partneriaeth Ogwen dros y ddegawd diwethaf yn amhrisiadwy, a’r Cynllun Busnes drafft a gynhyrchwyd yn hynod gynhwysfawr.
Diolch hefyd i holl wirfoddolwyr y Grŵp Llywio am rannu o’u profiadau ac arbenigeddau cyfoethog. Ecolegwyr, sylfaenwyr a chyfarfywddwyr sawl mudiad cymunedol, cynghorwyr Sir a chymuned, cyn- benaethiaid gwasanaethau tai, saeri, artistiaid a mwy!
Beth nesaf?
Diolch i waith diwyd a gofalus y Grŵp Llywio cychwynnol, mae trefniadau cyfreithiol, ariannol a chynllun busnes bron i gyd yn eu lle. Beth sydd ei angen nesaf ydy dod a’r Bartneriaeth yn FYW!
Perthynas ydy Partneriaeth yn y bôn, ac fel unrhyw berthynas, mae angen gofal a chariad ac ymdrech barhaus o bob ochr i’w chynnal. Nid oes un i arwain ac eraill i ddilyn! Wrth ddod i adnabod ein gilydd yn well mewn digwyddiadau achlysurol, a chefnogi ymdrechion ein gilydd, bydd y gwaith o ddatblygu’n cymunedau yn dod a mwy o wobrwyon i bawb, yn y pendraw.
Bydd digwyddiad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd (amser a lleoliad i’w gadarnhau) i ddod a thrigolion a busnesau at ei gilydd i gael cyfle i sgwrsio, i rannu o’u profiadau, ac i ddathlu’r gwaith caled sy’n digwydd ar draws ein cymunedau. Byddwn hefyd yn hysbysebu swydd Rheolwr Datblygu Partneriaeth Dyffryn Peris er mwyn codi gwynt i’r hwyliau o ddiffrif.
Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno gyda’r Grwp Llywio, byddwn yn croesawu sgwrs gyda chi.
Mae £10,000 wedi ei sicrhau ar gyfer cynnal Asesiad Anghenion Tai Lleol ac i asesu modelau, eiddo a chyllido posib ar gyfer Tai dan arweiniad y gymuned. Bydd cyfarfodydd yn cael eu galw yn y flwyddyn newydd i glywed barn a syniadau trigolion ynglyn a hyn er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng tai mewn modd rhagweithiol a chadarnhaol.
Os hoffech chi gael gwybod am ddigwyddiadau pellach – anfonwch ebost at peris@gwyrddni.cymru i gael eich ychwanegu i’r rhestr dosbarthu.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!