Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cofio / Memortal

CelfFfilm

Darn byr Span Digidol yw Cofio/Memortal. Bu’r prosiect peilot yma’n ymchwilio’r posibilrwydd o greu ap atgofion digidol i helpu pobl i gofnodi a rhannu atgofion, delweddau, gwrthrychau a recordiadau sain er mwyn adrodd eu hanesion personol. Ymunon ni â Gemma Green Hope, artist animeiddio o Sir Benfro ac Owen Davis -crëwr apiau o Fryste, i greu prototeipiau ar gyfer ap oedd yn hawdd i’w ddefnyddio, yn ddigon hyblyg i foddhau gofynion gwahanol ddefnyddwyr ac yn weledol hardd. Mae’r ffilm ddwys yma sy’n cyffwrdd â’r galon yn adrodd stori’r prosiect.

RHANNWCH