Cystadleuaeth 5 Mewn Pryd Gŵyl Fwyd Caernarfon a Hybu Cig Cymru!
Y sialens yn syml:
1. Coginio rysáit o dy ddewis di gan ddefnyddio Cig Oen neu Gig Eidion o Gymru.
2. Defnyddio hyd at 5 cynhwysyn arall yn y rysáit.
3. Wedyn, postia lun o’r plât gorffenedig a disgrifiad byr o’r rysáit ar dudalen Facebook Gŵyl Fwyd Caernarfon neu drwy ddilyn y ddolen yma gan nodi dy enw ac os mai oedran cynradd neu uwchradd wyt ti. Mae croeso i ti rannu fideo gyda ni hefyd.
Y dyddiad cau ydi Tachwedd 16 a byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 23 o Dachwedd.
I’r gad ac i’r gegin!