Cartref digidol diwylliant Cymru.

Map Digi Penfro

Mae Map Digi Penfro yn brosiect sy’n ceisio creu map ‘dwfn’ o Sir Benfro. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tîm Span Digidol wedi bod yn ymweld â lleoliadau yn Sir Benfro yn cofnodi meddyliau a theimladau pobl am y lleoliadau ble maen nhw’n byw. Mae’r ffilm hon yn cofnodi ein penwythnos dwys cyntaf ym mis Gorffennaf y llynedd a dreuliwyd yn ardal Garn Fawr ar Benrhyn Pencaer yng nghwmni daearegwr, archeolegydd, botanegydd, bardd, a grŵp o blant o Ysgol Gynradd Wdig. Mae’r prosiect yn ceisio archwilio lleoedd o sawl safbwynt gan arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a chyfoethocach o le. Gellir gweld y map a grëwyd o ganlyniad i’r penwythnos hwn ar-lein. I weld y map, dilynwch y ddolen yn yr adran ddisgrifiadol o dan y ffilm. Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Arwain Sir Benfro a Chyngor Sir Benfro.

RHANNWCH