Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, albwm newydd The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria. Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn anghysbell hwn, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Firmingham ar ddiwedd oes Fictoria. Mae’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Tachwedd’ yn ddathliad seicedelig calonogol o’r hydref ac yn ein hatgoffa i ddal y golau drwy’r tywyllwch.