Cartref digidol diwylliant Cymru.

Mapio Cynefin a Dysgu am Natur yn Ysgol Rhosgadfan

Cymuned

Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn. Gallwch ddarllen am hyn fan hyn https://www.gwyrddni.cymru/rhaglen-addysg/ Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol.

Gyda Chyfnod Gweithredu Cymunedol GwyrddNi ar y gweill, roedd yn bryd addasu’r gwaith addysg i adlewyrchu hyn. Ar ôl trafod gyda llawer o athrawon, rydym yn cynnig:

  • Sesiwn hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod ein teimladau yn ei gylch, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd.

  • Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!)
  • Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr

Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i weithredu ar y themau yng nghynlluniau gweithredu eu hardal nhw. Dyma un stori yn dangos beth sydd wedi bod yn digwydd hyd yn hyn:

Ysgol Rhosgadfan – Mapio Cynefin a Dysgu am Natur 

Gan Siôn, Hwylusydd Dyffryn Nantlle

Mae’n bleser cael gweithio hefo ysgolion y fro ar ddatrysiadau bach i newid hinsawdd, a’r flwyddyn yma rydym wedi cynnal sesiynau ar gyfer Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Bro Lleu.

Yn Rhosgadfan buom yn gweithio hefo blynyddoedd 3,4,5 a 6. Roedd y sesiwn hinsawdd un-diwrnod yn fan cychwyn da i adeiladu ar ddealltwriaeth y plant o’r hyn sydd yn newid yn yr hinsawdd, a sut gallwn ymateb iddo’n lleol.

Mae gan yr ysgol ardd tyfu bwyd a polytunnel ar safle ac mae ganddynt glwb garddio rheolaidd, felly roedd eu dealltwriaeth o dyfu bwyd yn rhyfeddol yn barod. Ond galluogodd y sesiwn hinsawdd iddynt osod beth maen nhw’n ei wneud yng ngardd yr ysgol mewn cyd-destun ehangach.

Wedyn, aethon ni ar wibdaith o amgylch y pentref yn chwilio am bethau diddorol ym myd natur, a chreu map mawr o bersbectif aderyn yn hedfan yn uchel dros ei gynefin, gyda’r pethau a gasglwyd ar y daith a lluniau gwych gan y plant arno. Fe welsom y Briallu’n blaguro, pob math o adar yn canu a sawl planhigyn diddorol fel rhedyn yn dadrolio a blodau bach melyn eithin, a’r grug yn eu plith. Rydym am adeiladu ar y map yma i ychwanegu bwyd fel mwyar duon, afalau ac eirin coginio hefyd.

Dywedodd un o’r athrawon: “Ar ôl mynd am dro, mae’r plant yn gofyn lot amlach beth ydy enwau pethau fel planhigion neu bryfaid, ac yn pwyntio allan y rhai ddysgon nhw yn ystod y sesiwn.”

Mae’r plant hefyd yn awyddus iawn i gefnogi natur yn ogystal â gallu tyfu eu bwyd eu hunain, felly yn y flwyddyn newydd rydym am gychwyn gwaith o sefydlu dolydd blodau gwyllt ar ddarn o wair gyferbyn a’u gardd nhw. Daethon lawr i ardd wyllt Yr Orsaf i gychwyn eu hymchwil ac adnabod blodau gwyllt fel Erwain a Ffenigl, a hyd yn oed dod o hyd i fadfall yn byw yng nghysgod un o’r coed afalau.

Mae syniadau’r plant mor wreiddiol ac arloesol ac rwyf yn edrych ymlaen at barhau o fis Medi ymlaen.

Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu!

Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth. Rydym hefyd wrthi’n datblygu cynnigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan!

Os ydych yn gweithio o fewn ysgol yn un o ardaloedd GwyrddNi hefo diddordeb yn ein cynnig addysg, cysylltwch â Sara (sara@deg.cymru), ein Swyddog Addysg.

RHANNWCH