Mae Nina, ein Hwylusydd Cymunedol ym Mro Ffestiniog, yn rhannu ei phrofiadau a’i mewnwelediad yn y blog hwn:
NINA: Os ydych chi eisiau newid neu addasu ymddygiad – mae angen i chi gynyddu cymhelliant, a chael gwared ar rwystrau. Fel dysgwr Cymraeg, a’r unig aelod o staff GwyrddNi oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith, roeddwn i eisiau dipyn o “shake-up” o gwmpas dysgu’r iaith. Ond doeddwn i ddim wir wedi ystyried y byddai mynd i’r afael â chymhelliant a rhwystrau yn rhan bwysig o wneud hynny.
Fedrai dim ond 4.5 diwrnod o drochi wir gael effaith sy’n newid bywyd? Mi es gyda meddwl mor agored ag y gallwn, ond ni allwn anwybyddu’r teimlad na fyddai hyn yn bilsen hud.
Erbyn diwedd yr wythnos dechreuais weld fy nghymhelliant cynharach mewn golau newydd. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod fy ymdrech i ddysgu Cymraeg wedi ymwneud yn bennaf ag adeiladu cyfalaf cymdeithasol ac economaidd.
Yn gymdeithasol, rydw i eisiau i bobl fy hoffi, i fod eisiau siarad â mi, i deimlo ein bod yn rhannu’r un byd, yn deall ein gilydd. Yn economaidd, rydw i eisiau bod yn dda yn fy swydd ac yn aelod defnyddiol o dîm. Mae’r rhain yn dal i sefyll fel cymhellion. Ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod diffyg ysbryd ynddyn nhw. Diffyg dyfnder.
Rhoddodd yr wythnos yn Nant Gwrtheyrn gipolwg i mi ar fath dyfnach o gymhelliant-—fel bol dwfn y ddaear – islif lafa tanllyd teimladwy sy’n ymestyn dros lawer mwy o genedlaethau a rhywogaethau na’m moment fach wirion hunan-ganoledig ar y blaned hon. Mae hynny’n rhywbeth i godi yn y bore ar ei gyfer.
Un o’r rhwystrau mwyaf roeddwn i wedi cael trafferth hefo oedd credu na fasa perthnasoedd ystyrlon ffurfio heb ruglder, heb fynediad at yr holl eiriau cywir. Doedd o ddim yn bosib, meddyliais, i’r sgyrsiau herciog, chwithig yna, efallai wedi hanner eu deall ar y gorau, fod yn ddigon i feithrin perthnasau cryf arnynt. Ond maen nhw!
Roedd y saith ohonom yn siarad Cymraeg trwy frecwast, cinio, a swper, wrth i ni gerdded i’r dosbarth, i’r traeth, trochi yn y môr, yn y dafarn. Ni allwn ddweud wrthych fod ansawdd ein perthnasoedd rhyngbersonol o ansawdd gwaeth oherwydd diffyg rhuglder. Yn wir, byddwn yn dweud ei fod yn well. Rhoesom amser, gofod, tosturi ac anogaeth i’n gilydd.
Rhwystr arall oedd gennyf oedd yr amheuaeth syfrdanol y gallwn fyth wir gyflawni dyfnder a rhuglder. Rydw i wedi cymharu dysgu iaith â chodi ffidil am y tro cyntaf yn 35 oed, gydag efallai dim ond ychydig o gefndir cerddorol. Ni fyddech byth yn disgwyl ymuno â’r Royal Philharmonic ar ôl ychydig flynyddoedd. Efallai mai’r gorau y gallwn i obeithio amdano oedd bod yn hen oedolyn, gwallt llwyd yn eistedd yn lletchwith yng ngherddorfa’r ysgol ac yn dal i daro nodau” dud”. Ac roedd hyn oll wedi’i ddal i fyny â’r cwestiwn os oedd cyfieithu o un iaith i’r llall hyd yn oed yn wirioneddol gyraeddadwy.
Gwnaeth fy wythnos yn Nant Gwrtheyrn i mi sylweddoli nad oedd angen i’r rhwystr fod yno o gwbl. Yn lle meddwl am ddysgu iaith fel taith gyda “fyny ac i lawr” (ella yn arwain i nunlle), dechreuais ei weld fel edrych drwy ffenestr i olwg newydd, safbwynt gwahanol ar fywyd a’r byd. Roedd fel gweld lle nad oedd golwg o’r blaen. Meddyliais am y gwaith manwl o adfer paentiadau wal Ganoloesol: dadorchuddio lliwiau a manylion a guddiwyd yn flaenorol.
Wrth edrych ar ddysgu Cymraeg — iaith leiafrifol — fel cyfle i ddatgloi’r bydoedd cudd hyn, roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy ngrymuso gan beth oeddwn wedi’i ddysgu hyd yn hyn yn lle ymestyn yn ddiddiwedd am yr amhosibl.
Gwelais fod beth oeddwn yn ei wneud yn barod – clirio rhan newydd sbon o’r ffenestr a gwerthfawrogi’r siapiau a’r lliwiau newydd roeddwn i’n gallu eu gweld, pa bynnag mor niwlog oeddynt, yn beth da. Fy mod i’n anturiaethwr, yn fforiwr, yn archeolegydd. Roedd y shift honno’n gweithio fel rhwbiwr pensal ar lun wedi’i thynnu o ffens anhyblyg.
Wrth gwrs, dwi wedi dysgu dipyn o taswn i a baswn i, dipyn o “cyntaf ar ddeg ar hugain” a mwy. Ond y lafa cymhelliant a’r dirwedd ddi-ffens sydd yn fy helpu i edrych ymlaen tuag at y dyfodol.
(Nodyn: Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn Saesneg yn wreiddiol)