Cawsom Eisteddfod werth chweil ym Mhontypridd ac i’r rhai sy’n ymddiddori yn helyntion prif gystadlaethau llenyddol yr Ŵyl dros y blynyddoedd, roedd bonws ychwanegol – miri’r Fedal Ddrama.
Buom yma o’r blaen, yn 1915, 1924, 1928 a 1934. Ac er bod natur ein gwlad yn wahanol iawn yn 2024, yr un yn y bôn yw’r hen gwestiwn sydd ynghlwm â’r miri diweddaraf. A oes ffiniau priodoldeb i ryddid mynegiant artistig? Yn 1915, barnai Eifion Wyn fod ffiniau o’r fath yn bodoli a chondemniodd Parry-Williams am drafod ‘arweddau tristaf ac aflanaf bywyd’ ym mhryddest ‘Y Ddinas’. Fe gafodd Parry-Williams ei goron drwy ddyfarniad y ddau feirniad arall, ond nid Gwenallt yn achos y gadair gydag awdl ‘Y Sant’ yn 1928. ‘Pentwr o aflendid’ oedd honno ym marn John Morris-Jones a chyffelyb oedd y dyfarniad yn achos drama Kitchener Davies ‘Cwm Glo’ yn 1934. ‘Ni faddeuai Cymru inni os y caniataem iddi gael ei chwarae’ oedd dyfarniad y beirniaid.
A oes ffiniau priodoldeb i ryddid mynegiant artistig wrth i ddramodydd bortreadu rhywun o gymuned nad yw’n rhan ohoni? Ymddengys mai’r cwestiwn hwnnw sydd wrth wraidd y miri yn 2024. Ond, yn sgil cyfrinachedd yr Eisteddfod, ni wyddom ai sôn am ‘gymuned’ yng nghyd-destun ethnigrwydd, crefydd, dosbarth cymdeithasol, anabledd, iaith, rhyw, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol yr ydym. Fodd bynnag, gwyddom un peth yn sicr: o safbwynt hanesyddol, mae penderfyniad Bwrdd Rheoli/Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod i ‘atal’ cystadleuaeth y Fedal Ddrama, gan wyrdroi dyfarniad y beirniaid, yn gam cwbl ddigynsail yn hanes yr Ŵyl. Hyd yn oed yn 1924, yn achos enwog ‘Atgof’ Prosser Rhys, gyda cherdd a welid fel ymosodiad bryd hynny ar foesoldeb cyhoeddus llywodraethol yr oes, fe lynodd yr Eisteddfod at ddyfarniad y beirniaid a gwobrwyo’r bardd. Boed gywir neu anghywir y penderfyniad ym Mhontypridd, y mae’n tanseilio’r hen egwyddor fod dyfarniad y beirniaid yn derfynol ac yn ansefydlogi’r holl arfer o gystadlu o dan ffugenw, trefn sy’n ymestyn yn ôl i Eisteddfod y Gwyneddigion yn y Bala yn 1789.
Mae’n ddigon gwir – yn 1976 a 1979 – fod dyfarniadau beirniadol wedi eu gwyrdroi gan yr awdurdodau Eisteddfodol a’r gwobrau wedi eu rhoi i’r rhai oedd yn ail. Ond, roedd Dic Jones, John Dressel a Jim Jones wedi torri’r rheolau ac roedd achos cadarn dros eu diarddel fel cystadleuwyr. Mae’n gwbl amlwg na fu i’r dramodydd anhysbys ym Mhontypridd dorri unrhyw reol. O weithredu fel y gwnaed yn 1976 a 1979, byddai’r Eisteddfod eleni wedi bod yn gwbl agored i her gyfreithiol. Yn hytrach, bu’n rhaid cynllunio dull amgen, digynsail a throfaus o weithredu.
Mawr fu’r trafod ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond y drafodaeth aeddfetaf hyd yma oedd honno ar raglen radio gelfyddydau Ffion Dafis ar 18 Awst. Sian Melangell Dafydd, Malachy Edwards, a Jeremy Turner oedd y panelwyr a chryfder diamheuol y drafodaeth ddeallusol ddisglair hon oedd eu hadnabyddiaeth o Gymru yn ei holl amrywiaeth, a’r ffaith allweddol eu bod oll yn ymarferwyr creadigol eang eu profiad a’u cydymdeimlad. Wrth i unrhyw gorff o ymddiriedolwyr wneud penderfyniad pellgyrhaeddol ei effaith, mae disgwyliad cyfreithiol iddynt, un ac oll, roi ystyriaeth i’r dystiolaeth lawnaf posib. Does ond gobeithio bod y dystiolaeth a dderbyniodd ymddiriedolwyr Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod o’r un ansawdd ddeallusol a’r un soffistigeiddrwydd â’r hyn a glywyd ar raglen Ffion. Roedd anferthedd y penderfyniad yn hawlio hynny.
Peredur Lynch