Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pen Llŷn: O Gynulliadau i Weithredu

Cymuned

Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ym Mhen Llŷn, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, ac edrych ymlaen i’r dyfodol. Mwy o wybodaeth isod!

Credwn mai’r bobl orau i lunio dyfodol cymuned yw’r rhai sy’n byw yno; pobl sy’n adnabod eu bro, eu cymdogion, hanes yr ardal a beth yw ei phrif anghenion a’i hasedau cryfaf.

 

Yn 2022 a 2023, cynhaliwyd pedwar Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd ym Mhen Llŷn (ac mewn pedwar ardal arall) i ateb y cwestiwn: Sut allen ni ym Mhen Llŷn ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?

 

Dyma’r Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol a greuwyd o ganlyniad o’r pedwar Cynulliad.

 

Ers ddiwedd 2023, mae GwyrddNi wedi derbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddechrau gweithredu’r syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu. Cysylltwch hefo ni os ydych eisiau bod yn rhan o hyn! Hwylusydd Pen Llŷn ydi Dafydd: dafydd.rhys@ynnillyn.cymru

 

Mwy o wybodaeth am broses y Cynulliadau

 

Yn y fideo yma: Ynni Llŷn www.ynnillyn.cymru
Ffrindiau Pwllheli: https://ffrindiaupwllheli.cymru/
Darganfod Llŷn: www.discoverllyn.com
O Ddrws i Ddrws: www.oddrwsiddrws.cymru

 

Fideo gan Siôn Alun Williams

 

Ariannwyd y Cynulliadau gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd (gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol), gyda chwe menter gymdeithasol yn cydweithio i’w rhedeg: Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), Ynni Llŷn, Cwmni Bro Ffestiniog, Yr Orsaf, Partneriaeth Ogwen a Cyd Ynni.

RHANNWCH