Ymunwch â ni ym Mhontypridd ar yr 17eg o Fai ar gyfer ein Cwrdd Egin cyntaf, lle cewch gyfle i gyfarfod eraill sy’n frwd dros daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy.
Bydd grwpiau cymunedol ledled Cymru sy’n cael eu cefnogi gan ein rhaglen Egin yn rhannu straeon o’r prosiectau hinsawdd y maent wedi bod yn gweithio arnynt, a chewch gyfle i ymuno â thrafodaethau neu weithdai ymarferol ar bynciau sy’n gysylltiedig â gweithredu hinsawdd gymunedol. Bydd digon o amser hefyd i sgwrsio â grwpiau eraill sy’n cymryd camau i daclo newid hinsawdd yn eu cymunedau.
Yn wyneb argyfwng costau byw, ansefydlogrwydd byd-eang cynyddol a’r argyfwng hinsawdd, mae’n bwysicach nag erioed bod cymunedau’n dod at ei gilydd i benderfynu ar y math o ddyfodol y maent eisiau ei weld.
Oherwydd cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gall CYD Cymru gynnig y digwyddiad hwn am ddim i hyd at 100 o bobl. Cofrestrwch heddiw!
E-bostiwch egin@dtawales.org.uk am fwy o wybodaeth