Cartref digidol diwylliant Cymru.

Beth sy’n digwydd pan ‘dych chi’n cofrestru gyda Egin?

Cymuned

Ydych chi’n rhan o grwp cymunedol, sefydliad, elusen neu sefydliad dielw sy’n chwilio am gymorth ychwanegol i ddod a’ch syniadau yn fyw?

Mae Egin yn rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan DTA Cymru sy’n cefnogi cymunedau i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a byw yn fwy cynaliadwy.

Ein prif ffocus ydy gweithio i gefnogi’r rhai sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrisiau am hinsawdd a chynaliadwyedd, ond yn debyg o gael eu heffeithio fwyaf ganddo.

Rydym hefyd yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau heb hanes blaenorol o weithio ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd, neu sydd ddim yn siŵr ble i ddechrau.

Os ydy eich grŵp neu fudiad cymunedol eisiau ddarganfod mwy am ddod yn rhan o’r rhaglen Egin, cysylltwch yma.

RHANNWCH