1 Pwy gipiodd Fethlehem oddi ar Dwrci yn 1917?
2 Pa fardd mawr gafodd fag o sglodion gan un o’n colofnwyr?
3 Pwy yw sêr Love Story Cymru heddiw?
4 Pa wlad yw’r dlotaf yn yr Undeb Ewropeaidd?
5 Beth oedd rhybudd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Tachwedd?
6 Pa siop oedd yn Ogof Aladdin?
7 Faint, yn ôl Sefydliad Rowntree, sy’n ‘hollol anghenus’ ym Mhrydain?
8 Faint o griw oedd gan yr Inverness?
9 Pa wlad sydd â chwyddiant o 140%?
10 Pwy oedd golygydd cyntaf llawn amser Gwasg Gomer?
11 Pa awdures ddaru droi eleni at genre ditectif/trosedd?
12 Pwy adawodd nodyn digalon at ei olynydd yn y Trysorlys yn 2010?
13 Ym mha wlad y mae dylanwad grwpiau asgell-dde yn rhywbeth gweddol newydd?
14 Beth yw’r ganran o siaradwyr sydd ei hangen i sicrhau parhad iaith mewn cymuned yn ôl arbenigwyr?
15 Pwy chwaraeodd ran un o’r cymeriadau hoyw cyntaf mewn opera sebon?
16 Pa Weinidog Addysg ddyfarnodd fod diarddel myfyrwraig o Fangor yn gam rhy bell?
17 Yn lle y bu’n rhaid ymbalfalu am le i eistedd a chynefino â’r tywyllwch?
18 Gan bwy oedd mwstash ceinaf Cwpan y Byd?
19 Pwy grëodd sgetsys o ffilmiau arswyd a phostio fideo bob dydd?
20 Ar gyfer pa achlysur a pha bryd y gobeithir ailagor Neuadd Dewi Sant?