Pan oeddwn i’n gyw o ysgolhaig ym mlynyddoedd cyntaf y 1990au ac yn dechrau mynychu cynadleddau academaidd mawrion fy maes, un o’r prif bleserau oedd cael ymweld ag arddangosfeydd y cyhoeddwyr. Dyma gyfle amheuthun i bori drwy’r cannoedd o gyfrolau newydd yn ymdrin â gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol, sef fy niléit mawr ar y pryd. O na fyddwn innau, rywdro, yn fy nghael fy hun ymysg yr awduron hyn!
Ond yr oedd bryd hynny, ysywaeth, un gornel fechan ar bron bob stondin a oedd yn cynnig rhybudd yn hytrach nag ysbrydoliaeth. Cornel lle cesglid ynghyd lyfrau a oedd yn aml yn gynnyrch blynyddoedd meithion o waith ymchwil, ond a oedd – waeth beth eu safon – yn annhebygol iawn o gael eu darllen gan unrhyw un. Llyfrau yr oedd hyd yn oed eu hawduron wedi anobeithio amdanynt, a hynny’n aml cyn eu cwblhau heb sôn ar ôl eu cyhoeddi.
Rhain oedd y llyfrau oedd yn trafod y cyfundrefnau gwleidyddol yn nwyrain Ewrop a’r hen Undeb Sofietaidd a sgubwyd o’r neilltu gan chwyldroadau 1989 i 1991. Yn amlach na pheidio, roedd eu cloriau mor ddigalon o lwm ac anapelgar nes sawru o’r agwedd ‘fe wnaiff hynna’r tro’ oedd yn eu hamgylchynu. Roedd y byd wedi troi ar ei echel a phawb oedd yn gysylltiedig â’r cyfrolau’n sylweddoli’n burion nad oedd unrhyw ddiddordeb bellach yn yr hyn a fu gyda phopeth yn newid mor gyflym. Yn sgil y fath chwyldroad, unig nod y cyhoeddi oedd cyflawni ymrwymiadau cytundebol.
Wrth gwrs, dyna’r perygl sy’n wynebu’r sawl yn ein plith sy’n ysgrifennu am faterion cyfoes. Mae yna wastad bosibiliad y gall gwrthrych ein gwaith lithro rhwng ein bysedd, fel petai, a hynny weithiau’n groes i bob disgwyliad. Os am enghraifft fwy diweddar, ystyriwch ffawd y cannoedd, onid miloedd, o ysgolheigion mewn prifysgolion ar hyd a lled y wladwriaeth hon sydd wedi adeiladu gyrfaoedd yn seiliedig ar aelodaeth y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd ac sydd nawr yn wynebu’r her o geisio datblygu arbenigedd newydd. Nid gormodiaeth yw dweud bod y cyfnod er 2016 wedi profi’n un cwbl drawmatig i lawer ohonynt.
Yn ddiweddar, cefais fy atgoffa o enghraifft arall o’r modd y gall disgwyliadau ysgolheigaidd gael eu tanseilio’n ddisymwth gan ddatblygiadau gwleidyddol – ‘events, dear boy, events’, chwedl Harold Macmillan – a hynny wrth gyflwyno fy myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i’r llenyddiaeth fechan ond ddethol honno sy’n trafod hynt y Ceidwadwyr Cymreig wedi datganoli.
Coeliwch neu beidio, yr oedd cyfnod pan oedd ysgrifennu am y modd yr oedd Torïaid Cymru wedi addasu i realiti creu sefydliadau cenedlaethol newydd yn ffasiynol. Neu, a bod yn fanwl gywir, yn ‘ffasiynol’ yng nghyd-destun y cylch cyfyngedig o sylwebwyr ac ysgolheigion sy’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ddatganoledig!
Dyma’r cyfnod pan oedd Nick Bourne yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol a’i blaid yn ceisio ei gorau i gyflwyno gwedd fwy Cymreig i’r cyhoedd gan herio’r hen dybiaeth lwythol honno sydd wedi gwreiddio mor ddwfn yn nhir Cymru fod y Torïaid yn blaid wrth-Gymreig. Nid oes amheuaeth gennyf fod nifer o’r rheini a fu’n ymddiddori yn y datblygiad hwn nid yn unig yn ystyried ei fod yn ddiddorol ynddo ei hun. I’r Albanwyr yn eu plith, yn arbennig pobl megis Alan Convery sydd bellach ar staff Prifysgol Caeredin (awdur The territorial Conservative Party: Devolution and party change in Scotland and Wales), yr oedd Ceidwadaeth Gymreig yn cynnig esiampl y dylai cefnogwyr y Blaid Geidwadol yn yr Alban ei hefelychu.
Dyma blaid a dreuliodd flynyddoedd cyntaf datganoli yn troi yn yr un hen ddŵr; yn gwaredu at newidiadau nad oedd ganddi unrhyw gydymdeimlad â hwy yn hytrach na cheisio o ddifrif ymateb i’r cyfleoedd newydd a gododd yn eu sgil. Onid oedd hynt y Ceidwadwyr yng Nghymru yn brawf fod ymateb arall yn bosibl, a’r cynnydd etholiadol a ddaeth i’w rhan ar ôl 2005 yn ernes o’r ffaith fod etholwyr yn fodlon gwobrwyo agwedd wahanol, fwy adeiladol?
Fodd bynnag, yn anffodus i Convery a’i gyhoeddwyr, erbyn i’w gyfrol swmpus yn cymharu Ceidwadwyr yr Alban a Chymru ddod o’r wasg yn 2016, yr oedd popeth wedi newid a’r llyfr wedi colli ei berthnasedd ac, mae’n siŵr gen i, ei gynulleidfa.
Ar y naill law, yn sgil y pegynu mawr a welwyd yn yr Alban o gylch refferendwm annibyniaeth 2014, yr oedd Torïaid y wlad honno wedi eu sefydlu eu hunain fel y brif wrthblaid, a hynny trwy wneud dim byd mwy creadigol na bloeddio’n uwch na neb arall am fendithion honedig yr Undeb. Yma yng Nghymru, ar y llaw arall, fe ddaeth hi’n gynyddol amlwg fod agweddau David Jones, ein Hysgrifennydd Gwladol rhwng 2012 a 2014 a gwrth-ddatganolwr greddfol, yn fwy cynrychioliadol o lawer o brif ffrwd Ceidwadaeth Gymreig na’r hyn a goleddwyd gan Bourne, David Melding a’u tebyg. Ac nid oedd hynny fel petai’n mennu dim ar boblogrwydd y blaid, chwaith. Yn wir, fe saif canlyniad etholiad cyffredinol 2019 – etholiad pan oedd holl osgo’r blaid yn perthyn lawer iawn mwy i Jones nag i Bourne – fel un o ganlyniadau gorau’r Ceidwadwyr yng Nghymru ers gwawrddydd democratiaeth.
Bellach, gyda’r Blaid Geidwadol wedi coleddu agwedd ‘gyhyrog’ tuag at gynnal yr Undeb gan danseilio grymoedd a breiniau seneddau datganoledig Caerdydd a Chaeredin heb feddwl ddwywaith am y peth, mae’r ymdrech a welwyd i Gymreigio ei delwedd yn ymddangos fel hen, hen hanes. Bron iawn yr un mor amherthnasol, yn wir, â threfniadau sefydliadol Dwyrain yr Almaen gynt.
Serch hynny, nid yn unig y bydd ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol Cymreig yn goroesi’r ymosodiadau presennol, ond mae pob argoel fod y Blaid Geidwadol ar drothwy crasfa etholiadol hanesyddol, gan golli y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r tir a enillwyd ganddi yng Nghymru ers 1999. Bydd hynny, yn ei dro, yn sicrhau y bydd dilema sylfaenol y blaid Gymreig yn parhau. Sut y dylent ymagweddu tuag at gyfundrefn wleidyddol y mae cymaint o’i haelodau ar lawr gwlad yn amheus o’i bodolaeth?
Dros y chwarter canrif ddiwethaf gwelwyd y Torïaid yn dilyn dau drywydd cwbl wahanol i’w gilydd – ar ôl cyfnod o addasu i’r drefn newydd fe drodd y blaid yn fulaidd o elyniaethus. Beth a ddaw nesaf, tybed? Troi nôl at yr agwedd fwy adeiladol ynteu troi’n fwy gelyniaethus fyth? Neu ai ffawd y Ceidwadwyr Cymreig yw pendilio nôl a blaen yn ddiffrwyth rhwng y ddau begwn, gyda’i grŵp yn Senedd Cymru yn ddim amgen na meithrinfa ar gyfer aelodau uchelgeisiol sydd â’u bryd ar sedd yn San Steffan? Amser a ddengys. Yn yr achos hwn, o leiaf, rwy’n tybio y bydd deunydd cyfrol ar gyfer rhyw Alan Convery arall ymhen y rhawg.
Richard Wyn Jones