Cartref digidol diwylliant Cymru.

Welsh Theatre and the Climate Crisis (Ar Alw)

Rydyn ni’n eich gwahodd i ddod at eich gilydd i drafod sut mae diwydiant theatr Cymru yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

 

Yr argyfwng hinsawdd yw’r cyd-destun yr ydyn ni nawr yn creu gwaith ynddo. Ni allwn ni newid hynny. Ond fe allwn ni newid sut rydyn ni’n gwneud i hynny weithio a beth yw’r gwaith. Mae’r diwydiant yn ecosystem, wedi’i gysylltu ar sawl pwynt. Drwy gydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd, gall Cymru osod y bar o arfer gorau.

 

Ymunwch â ni yng Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gychwyn y daith honno. Gwrandewch ar straeon am lwyddiannau a methiannau, cynnydd a heriau, a rhannwch eich meddyliau a’ch syniadau eich hun am greu theatr gan gadw cynaliadwyedd wrth galon y cyfan.

Yr hyn i’w ddisgwyl 

Bydd y diwrnod yn cael ei rannu’n bedair rhan. Bydd deuddeg siaradwr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn eu meysydd yn rhoi sgyrsiau byr i ysgogi sgwrs ac ateb cwestiynau. Mae’r gweddill i fyny i chi.

 

Gallwch ddweud wrthym am eich buddugoliaethau, penderfyniadau ‘gwyrdd’ sydd wedi gweithio, ailddefnyddio setiau, lleihau cludiant, neu newid i LEDs. Gallwch hefyd ddweud wrthym am bethau nad ydynt wedi mynd cystal…

 

Byddwch yn eistedd wrth fyrddau crwn i hwyluso sgwrs ac annog ymgysylltiad. Erbyn diwedd y dydd, rydym yn gobeithio y byddwn o leiaf wedi rhannu rhai syniadau a fydd yn ddefnyddiol ac y gallwch eu cymryd yn ôl a’u hymgorffori yn eich gwaith.

 

Bwcio

 

Os hoffech fynychu’n bersonol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, archebwch eich lle yma. Mae presenoldeb yn rhad ac am ddim ond mae’r capasiti yn gyfyngedig.

 

Os byddwch yn ymuno ar-lein, bydd y llif byw yn dechrau o 10am ddydd Mercher 20 Hydref YMA.

 

Amserlen y siaradwyr

10.30: Mewngofnodi a rhwydweithio

 

Rhan 1

11:05: Croeso – David Evans}
11:10: Cyflwyniadau o amgylch byrddau – heriau o wneud gwaith yn gynaliadwy
11.35 Beth mae’r Argyfwng Hinsawdd yn ei olygu mewn gwirionedd. – Neil Glasser
12:00: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r Argyfwng Hinsawdd – David Wilson
12:15: Theatr Byd Bychan – Bill Hamblett

 

Rhan 2

12:40: CARAD – Cath Allen
12:20 Yr Economi Gylchol – David Wilson
12:35: Llyfr Gwyrddion y Theatr – David Evans
12:50 Sut y gellir adeiladu setiau yn gynaliadwy? – Darren Joyce
13:20 – 14:15: Cinio

 

Rhan 3

14:20: Strategaeth ACW ar gyfer Cyfiawnder Hinsawdd a’r Celfyddydau – Judith Musker Turner
14:35: Gwneud Theatr ym Myd Natur – Ffion Jones
14:50: Peter Cox – Safbwynt dramodydd
15:05: GALWAD a’m Practis – Jacob Gough

 

Rhan 4

16:05: Trafodaeth banel gyda Peter Cox, Jacob Gough, Judith Musker Turner a Ffion Jones, dan gadeiryddiaeth David Wilson
16:20: Crynodeb o’r Gwrandäwr – Andrew Filmer
16:30 Myfyrdodau o’r ystafell

RHANNWCH