Mae Egin yn cefnogi cymunedau i weithredu ar newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy – ond beth mae hynny’n ei olygu go iawn? Gall y term “gweithredu hinsawdd” fod yn ddigon anghlir, ond pan fyddwch chi’n ychwanegu “cymuned” i’r gymysgedd gall ddod hyd yn oed yn fwy dryslyd!
Gallai gweithredu hinsawdd gymunedol fod yn unrhyw beth sy’n dod â lleisiau gwahanol o’r gymuned at ei gilydd i leihau allyriadau carbon, newid ffyrdd o fyw i fyw mewn cydbwysedd gwell â’r ddaear, ailfeddwl faint y mae gwir angen i ni ei ddefnyddio a’i daflu i ffwrdd, neu i helpu i addasu i newid hinsawdd. Gallai rhai enghreifftiau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: caffis atgyweirio, Llyfrgelloedd Pethau, gerddi cymunedol, prosiectau ynni cymunedol, rhannu ceir, rhannu beiciau trydan, a phrosiectau adeiladu sgiliau gwyrdd.
Mae gan ein Mentoriaid Cymheiriaid Egin brofiad o gymryd rhan mewn, neu sefydlu, prosiectau gweithredu hinsawdd gymunedol. Yn y weminar hon, byddwch yn gallu clywed gan rhai o’n Mentoriaid am enghreifftiau go iawn o weithredu hinsawdd gymunedol – gan gynnwys ychydig am yr heriau penodol y mae eu cymunedau’n eu hwynebu.
Ym y weminar yma, clywon ni am rai o’r prosiectau ar lawr gwlad mae rhai o’n mentorau wedi gweithio arnyn nhw, yn cynnwys y heriau!