Mae Egin yn raglen sy’n bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd.
Prif ffocws Egin ydy gweithio gyda grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd.
Gyda’r heriau niferus sy’n ein hwynebu nawr ac yn y degawdau nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod cymunedau’n gallu dod at ei gilydd i siarad, cynllunio a chreu’r newidiadau y mae nhw eisiau eu gweld – i greu dyfodol sy’n deg, cynaliadwy, a sy’n gweithio i bawb.
Rydym yn gwybod y gallai hi fod yn anodd gwybod ble i ddechrau a beth i’w wneud, a dyna pam yr ydym yn cysylltu grwpiau cymunedol gyda Mentoriaid Cymheiriaid. Mae nhw’n bobl sydd eisoes wedi gwneud prosiectau tebyg ac sy’n hapus i rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau i’ch helpu i wneud y newidiadau rydych eisiau eu gweld.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan grwpiau heb hanes blaenorol o weithio ar hinsawdd a chynaliadwyedd, neu sydd ddim yn siŵr o ble i ddechrau.
Mae Egin yn cael ei redeg gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) a bydd yn rhedeg tan 2029. Mae’n cael ei hariannu trwy Camau Cynaliadwy Cymru – Grant Mentora; mae’r grantiau yn cael eu gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’r arian yn dod o’r Cynllun Asedau Segur – sy’n rhoddi arian wedi ei adael heb ei gyffwrdd am fwy na 15 mlynedd mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.
Gall grwpiau a gefnogir gan Egin dderbyn hyd at 3 diwrnod o Fentora Cyfoedion gan bobl sydd eisoes wedi gweithio ar brosiectau tebyg. Bydd mentoriaid yn eich helpu i ddatblygu eich syniadau, creu cynllun gweithredu, a mesur effaith eich prosiect. Gall grwpiau a gefnogir hefyd gael archwiliad ynni ar adeilad cymunedol trwy ein partneriaid Asiantaeth Ynni Severn Wye, a gall unrhyw grŵp sydd wedi derbyn mentora fod yn gymwys i wneud cais am grant o hyd at £15,000 o grantiau Egin gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mwy o wybodaeth ar www.egin.org.uk