Heddiw, mae platfform AM ac Egin yn falch o gyhoeddi Partneriaeth Strategol rhyngddynt am y tair blynedd nesaf.
Mae Egin yn rhaglen newydd gan Gymdeithas Ymddiriedolaethau Cymru (DTA Wales) sy’n bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i gymryd eu camau cyntaf i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Prif ffocws Egin ydy gweithio gyda grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd.
Mae AM yn blatfform digidol sydd yn rhannu diwylliant cymunedol a chynhwysol Cymru, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Ers y tair blynedd ers ei sefydlu yn 2020, mae’r wefan ac ap wedi tyfu i adlewyrchu gweithgaredd dros 350 o Bartneriaid Creadigol/sianelau, ac wedi derbyn dros 1,000,000 o page views. Yn symud ymlaen mae AM yn anelu i greu hafan ar gyfer gweithgaredd diwylliannol a chymunedol, ac yn arbennig i dynnu sylw at ymgyrchoedd a chynnwys digidol sydd yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd.
Nod y bartneriaeth hon fydd cyflwyno’r cynllun Egin i gymunedau gwahanol drwy gynulleidfa a phartneriaid AM a hynny drwy ddogfennu a hyrwyddo’r gwaith allweddol maent yn ei wneud i ddatblygu cynaliadwyedd ar lefel gymunedol. Mae AM hefyd yn gobeithio sicrhau bod cyngor ac adborth Egin yn llywio strategaeth tair blynedd sydd yn rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd eu gweithgaredd fel platfform.
Meddai Gwyneth Jones, Rheolwr Cyfathrebu Egin:
“Mae AM yn brosiect cyffrous iawn sy’n cyffwrdd lot o bynciau pwysig ac yn cyrraedd lot o’r un bobl yr ydym yn gobeithio eu cyrraedd – felly rydym yn hapus iawn i fod yn gweithio gyda’n gilydd dros y blynyddoedd nesaf!”
Ychwanega Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM:
“Mae Egin yn gynllun newydd hynod gyffrous a hanfodol ac mae AM yn falch iawn o lansio’r bartneriaeth yma i ehangu cyrhaeddiad y cynllun fel bod cymunedau ar draws Cymru yn gallu manteisio ar eu harbenigedd i wneud y newidiadau allweddol sydd eu hangen er mwyn gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd yn y dyfodol”
Bydd logo Egin yn cael ei ychwanegu i dudalen flaen AM o heddiw ymlaen. Ewch i sianel newydd Egin i weld eu cynnwys ac i ddysgu mwy am sut y gallwch chi gofrestru â’u cymuned digidol.