Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) yn sefydliad aelodaeth annibynnol sy’n seiliedig ar ymarferwyr sy’n hyrwyddo gwaith a chefnogi’r rhwydwaith cynyddol o ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru.
Ein Gweledigaeth yw un o gymunedau ffyniannus a chydnerth ledled Cymru, lleoedd o bosibilrwydd lle gall pobl gymryd rheolaeth o’u bywydau, drwy fenter gymunedol, gweithredu cymdeithasol a pherchnogaeth asedau cymunedol.
Ein Cenhadaeth yw sicrhau Ymddiriedolaeth Ddatblygu lwyddiannus ym mhob cymuned sydd eisiau un.
Mae DTA Cymru a’n chwaer sefydliadau ar draws y DU yn cefnogi gwerthoedd ac egwyddorion allweddol, fel rhan o Faniffesto Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu, sy’n cynnwys:
Grymuso – rhaid i gymunedau fod yn berchen ar eu dyfodol eu hunain a’i reoli, trwy eu sefydliadau eu hunain, gyda’u hasedau eu hunain ac arweinyddiaeth gymunedol.
Cydfuddiannaeth – dim ond trwy gydweithio i rannu sgiliau a phrofiadau, risgiau ac adnoddau y gall cymunedau difreintiedig lwyddo.
Amrywiaeth – hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb o fewn ein sefydliad a chymunedau lleol.
Annibyniaeth – rhaid i gymunedau, sefydliadau a gweithgareddau fod yn annibynnol o’r wladwriaeth a’r sector preifat.
Partneriaeth – rhaid i gymunedau a sefydliadau weithio gyda’i gilydd, dim cystadlu
Cynaliadwyedd – mae ymddiriedolaethau datblygu eisiau helpu i greu cymunedau gwydn a chynaliadwy trwy adfywio economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sydd wedi eu rheoli yn dda. Wrth wneud hynny, maent am leihau eu heffaith ar adnoddau’r ddaear.
Yng Nghymru, sefydlwyd DTA Cymru yn 2003, yn wreiddiol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i gefnogi’r rhwydwaith o ymddiriedolaethau datblygu presennol yng Nghymru. Yng Nghymru mae gennym 38 o Aelodau, gydag asedau sy’n eiddo i’r gymuned gwerth dros £560 miliwn.
Ledled y DU mae ein rhwydwaith yn cynnwys mwy na 600 o sefydliadau sy’n eiddo i’r gymuned. Rydym yn rhan o fudiad ehangach o adfywio cymunedol a rhwydwaith menter ar draws y DU, gan gynnwys Locality yn Lloegr, DTAS yn yr Alban a DTNI yng Ngogledd Iwerddon, sy’n dyddio’n ôl i ffurfio’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Ddatblygu wreiddiol yn 1992.
Dysgwch fwy yma neu e-bostiwch info@dtalwales.org.uk i gysylltu.