Roedd Christine Pritchard yn un o’r don o gymeriadau cryf ac unigryw a osododd sail i broffesiynoldeb ym myd y theatr a’r teledu yn ystod y 1960au a’r 1970au. Chwaraeodd ystod eang o rannau, o arwresau’r theatr glasurol Ewropeaidd i sebon, ac roedd ei thechneg radio yn ddi-fefl.
Cyflwynwyd hi i waith radio pan gafodd wahoddiad gan Wilbert Lloyd Roberts i ymuno â’r criw actorion radio sefydlog ym Mangor, a hithau’n dal yn ferch ysgol. Wilbert hefyd a’i gwahoddodd i ymuno â Chwmni Theatr Cymru flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1970, i chwarae’r brif ran yn nrama Rhydderch Jones Roedd Caterina o Gwmpas Ddoe. Aeth yn ei blaen i chwarae rhan Angélique yn Y Claf Diglefyd gan Molière y flwyddyn olynol i’r un cwmni, yr unig gwmni theatr a fodolai yng Nghymru ar y pryd. Dyma ddechrau gyrfa a barhaodd yn ddi-fwlch bron am hanner canrif gan gwmpasu gwaith llwyfan a sgrîn.
Fe’i magwyd ar aelwyd ddwyieithog yng Nghaernarfon, ei thad yn drafaeliwr a’i mam yn wraig tŷ. Mynychodd Ysgol Syr Hugh Owen yn y dre. Yno fe’i hysbrydolwyd gan Mr Claridge, athro hanes a oedd yn caru’r theatr ac a ysgogodd yr un cariad yn ei ddisgybl pan gastiodd hi, yn 15 oed, yn y brif ran, Major Barbara, yn nrama Shaw o’r un enw. Wedi graddio mewn Lladin, Saesneg a Drama ym Mhrifysgol Bryste a chymwyso fel athrawes, treuliodd flwyddyn ar gynllun VSO yn St Kitts yn y Caribî yn dysgu Saesneg a Ffrangeg cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus fel athrawes yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n cyfarwyddo gyda’r Phoenix Players.
Ar ôl gadael Cwmni Theatr Cymru cychwynnodd ar ei gyrfa deledu gyda’r rhaglen blant Nôl Mewn Pum Munud, ac yna’r cyfresi drama Rhandirmwyn ac Enoc Huws. Yn 1974 teithiodd i’r Unol Daleithiau gyda’r Pryderi Players, fel rhan o gynllun gan Gyngor y Celfyddydau i hybu gwaith beirdd ac awduron Cymreig.
Dros y blynyddoedd ymddangosodd yn Pobl y Cwm, Glas y Dorlan, Taff Acre, Newydd Bob Nos, Diar Diar Doctor, The Magnificent Evans a The District Nurse, cyn chwarae Ruth Gregory yn Dinas, ac Agnes yn Pris y Farchnad. Roedd ei gwaith teledu wedi hynny yn cynnwys Talcen Caled, Doctors, Treflan, Stella, The Indian Doctor, Cara Fi, Un Bore Mercher, 35 Awr a Casualty.
Ymysg ei rhannau mwyaf cofiadwy ar lwyfan yn Gymraeg roedd Amanda yn Y Werin Wydr, Mrs Alving yn Ddoe Yn Ôl, Mair yn Fel Anifail, Gwyneth Fame yn Dulce Domum, y Nyrs yn Romeo a Juliet a Prudencia yn Tŷ Bernarda Alba. Yn Saesneg, gwnaeth argraff fel Lady Bracknell yn The Importance of Being Eanest, Rose yn Angels Don’t Need Wings a Reah yn Flowers From Tunisia. Roedd yn aelod craidd o Gwmni Theatr Pena a sefydlwyd yn 2009 mewn ymateb i ddiffyg rhannau i actoresau hŷn, a derbyniodd glod am ei pherfformiadau fel Poncia yn The House of Bernarda Alba, Clare yn The Maids a June yn The Killing Of Sister George i’r cwmni hwnnw.
Clywyd ei llais mewn cynyrchiadau di-ri ar Radio Cymru a Radio 4, gwnaeth lawer o waith trosleisio, a chaiff ei chofio gan genedlaethau o blant am ei phortread o’r wrach Rala Rwdins.
Roedd dawn a deallusrwydd Christine yn ddiymwad. Gwelir eisiau ei phresenoldeb cadarn a charismataidd, a’i hamseru comedi meistrolgar. Gwelir ei heisiau’n fawr oddi ar y llwyfan hefyd. Roedd ei gwên barod a’i natur dwymgalon yn tystio i’w hagwedd gadarnhaol a’i phenderfyniad i fwynhau bywyd i’r eithaf doed a ddelo. Fe wnaeth hi hynny’n sicr, yng nghwmni ei gŵr Peter, ei merch Angharad, ei hŵyr Isaac, a’r lliaws o ffrindiau a chyd-weithwyr a gafodd y fraint o’i hadnabod.
Ganed Christine Pritchard ar 6 Awst 1942. Bu farw ar 14 Chwefror 2023.
Sharon Morgan