Cartref digidol diwylliant Cymru.

Aristiaid Ifainc Cymru | Young Welsh Artists 2022

Blas digidol o’r arddangosfa yn MOMA Machynlleth sydd yn arddangos gwaith artistiaid o dan 30 oed sy’n gweithio yng Nghymru

Mae Artistiaid Ifainc Cymru yn dychwelyd i MOMA Machynlleth. Wedi’i sefydlu yn 2020, mae’r arddangosfa flynyddol yn arddangos gwaith artistiaid o dan 30 oed sy’n gweithio yng Nghymru.

Mae trydedd arddangosfa AIC-YWA yn cyflwyno wyth artist ar ddechrau eu gyrfa o bob rhan o Gymru, gyda’u disgyblaethau’n amrywio o serameg a ffotograffiaeth i beintio a gosodiadau. Dewisiwyd wyth artist ifanc cyffrous gan y curaduron Mari Elin Jones a Lloyd Roderick.

Gwahoddwyd yr artistiaid i gyflwyno gweithiau mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw thema. Y canlyniad yw casgliad o weithiau celf eclectig, yn amrywio o baentiadau a ffotograffau, i gerfluniau a darnau clyweledol. Mae gwaith pob artist yn ymdrin â gwahanol bynciau, megis cof, lle, iaith a’r hunan, ond gyda’i gilydd yn cynnig cipolwg ar brofiadau amrywiol bywyd yn 2022 ac yn adlewyrchu bywiogrwydd celf gyfoes yng Nghymru.

Yr wyth artist sydd yn rhan o’r arddangosfa yw Caitlin Dolman, Dottie-may Aston, PJ Ke, Ffion Griffiths, Elena Grace, Mia Offelia, Erin Donnelly a Dione Jones. Ewch i fwynhau eu gwaith ar dudalen flaen AM nawr!

RHANNWCH