Yn ystod Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen cafwyd cyflwyniad gan Gwenllian Spink ac Elenid Roberts am waith Yr Orsaf ym Mhenygroes
Gwenllian yw Swyddog Dim Gwastraff Yr Orsaf, ac felly yn cynnal prosiectau sy’n hyrwyddo ail-gylchu, ail-ddefnyddio a newid agwedd tuag at sbwriel.
Elenid yw Swyddog Datblygu Cynllun Trafnidiaeth Cymunedol yr Orsaf ac yma mae’n sgwrsio am gerbydau trydan Yr Orsaf a chlybiau cymunedol.
Gallwch ddarllen trawsgrifiad Cymraeg o’r sgwrs yma a thrawsgrifiad Saesneg yma.