Mae Creu Cymru, mewn partneriaeth â PYST Cyf (sy’n rhedeg llwyfan digidol Am), yn cynnal prosiect peilot i rannu canlyniadau gwaith ymchwil a datblygu gan gwmnïau theatr ac artistiaid o Gymru yn ddigidol. Bydd y fenter hon, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei chynnal ym mis Mai 2026, gyda’r nod o wella gwelededd, cysylltedd a deialog ynghylch gwaith creadigol cam cynnar.
Gall artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu ar gyfer cynyrchiadau rhwng 1 Chwefror ac 11 Mai wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun peilot.
Bydd gwaith ymchwil a datblygu artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan ac sydd wedi ffilmio eu gwaith yn cael ei letya ar lwyfan Am (www.ambobdim.cymru) am gyfnod cyfyngedig o rhwng 6 a 10 diwrnod. Bydd 4-6 cyfle i rannu gwaith.
Bydd y ffenestr ddigidol hon yn ei gwneud yn fwy hygyrch i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ledled Cymru a thu hwnt i ymgysylltu â gwaith newydd yn ei gam ffurfiannol.
Yn dilyn yr arddangosfa ar-lein, bydd Creu Cymru yn cydlynu cyfarfod ar-lein rhwng artistiaid a chrewyr theatr, cynhyrchwyr a chynrychiolwyr lleoliadau. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol ofyn unrhyw gwestiynau egluro ac yn rhoi cyfle i’r artistiaid sy’n cyflwyno siarad ymhellach am eu gwaith. Dylai hyn i gyd feithrin ysbryd agored, gan alluogi cwestiynau, adborth a thrafodaeth.
Selection criteria
- Artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a datblygu rhwng 1 Chwefror ac 11 Mai.
- Artistiaid a chwmnïau sy’n bwriadu cyflwyno eu gwaith yn ystod y 2 flynedd nesaf.
- Artistiaid a chwmnïau Cymreig neu yng Nghymru.
- Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod rhwng 10-30 munud o hyd. Eich penderfyniad chi yw a yw hyn yn cynnwys amser i gyflwyno eich hun a’r darn.
- Bydd angen i artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan fod yn gyfrifol am ffilmio eu gwaith a darparu’r deunyddiau digidol i PYST Cyf erbyn 11 Mai. Gallwch gysylltu â PYST Cyf am gyngor ynghylch fformatau ac ati.
- Dylid cynnwys capsiynau lle bo hynny’n bosibl. Os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni.
- Bydd angen i’r rheini sy’n dymuno cymryd rhan lenwi ffurflen wybodaeth y gellir ei rhannu â’r rheini sy’n edrych ar y gwaith. Bydd hyn hefyd yn rhan o’r broses ddethol.
- Bydd angen i artistiaid a chwmnïau sy’n cymryd rhan fod yn gyfrifol am glirio unrhyw hawliau i wylio ar-lein gyda chynulleidfa gyfyngedig a wahoddir.
- Gall artistiaid a chwmnïau gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg (neu ddim iaith).
- Sylwch, nid oes cyllid ychwanegol ar gael i gymryd rhan. Dylech gynnwys unrhyw gostau cysylltiedig yn eich cyllideb / cais. Efallai y gallwn helpu gyda chapsiynau a chyfieithu deunyddiau os oes angen, felly siaradwch â ni os ydych chi’n meddwl bod angen cymorth arnoch chi.
- Dyddiad cau i wneud cais 4ydd Mai
Bydd Creu Cymru yn gwahodd rhaglenwyr a chynhyrchwyr o blith eu haelodau a thu hwnt. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd artistiaid a chwmnïau yn defnyddio eu cysylltiadau a’u rhwydweithiau eu hunain i hyrwyddo’r cyfle.
Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn arwain at fwy o amlygrwydd i waith cam cynnar, yn enwedig i artistiaid y tu allan i ganolfannau trefol mawr. Dylai fod yn ffordd fynediad hyblyg, â rhwystrau isel, i raglenwyr a chynhyrchwyr ymgysylltu â syniadau newydd. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn arwain at ecosystem ddatblygu fwy tryloyw a chefnogol, lle gall artistiaid gael adborth a meithrin perthnasoedd yn gynharach.
Cliciwch yma am ffurflen gais: https://forms.gle/ss6FEwAVeet5zsuA7